Diffoddwyr Tân Rhan Amser (Ar-Alwad)
Nid oes gan y Gwasanaeth restr sefydlog o orsafoedd tân sy’n recriwtio ar hyn o bryd gan y bydd hyn yn newid trwy gydol y cyfnod cofrestru agored.
Yn ystod y cyfnod cofrestru agored, bydd y Gwasanaeth yn arolygu ei lefelau staffio ac argaeledd criwiau ei 44 gorsaf dân yn rheolaidd yn unol ag anghenion y Gwasanaeth a’r cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Mae’r broses arolygu rheolaidd yma'n sicrhau ein bod ni'n recriwtio’r bobl iawn, yn y llefydd iawn, ar yr adeg iawn.
Fe’ch gwahoddir i gofrestru eich diddordeb yn y broses recriwtio ar gyfer unrhyw un o’n 44 gorsaf dân nawr, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y Gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi ac y rhoi diweddiaradau rheolaidd i chi ar y broses o recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser.