Oriau a Chyflog
Mae Diffoddwyr Tân Llawn Amser fel arfer yn gweithio 42 awr yr wythnos ar gyfartaledd a chan ddibynnu ar eu rôl a'u gorsaf maent yn gweithio un o'r partymau sifft canlynol:
- System Ddyletswydd Sifftiau - 2 sifft dydd (9am - 6pm), 2 sifft nos (6pm-9am) a 4 diwrnod 24 awr i ffwrdd o'r gwaith
- System Criwio Dydd - 4 diwrnod ymlaen (12pm - 10pm ac ar alwad weddill yr amser am 4 diwrnod) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd
- System Ddyletswydd Gwledig - 4 diwrnod ymlaen (6am - 6pm gyda'r posibilrwydd o ddarparu gwasanaeth ar alwad weddill yr amser yn ystod y 4 diwrnod pe gofynnir a fel y bo'n addas) ac yna 4 diwrnod i ffwrdd.
Tâl
Y cyflog cychwynnol i ddiffoddwyr tân dan hyfforddiant ydi £22,908. Ar ôl dod yn gymwys mae diffoddwyr tân yn ennill cyflog o £30,533.