
Asesiadau Effaith ar gydraddoldeb
Y mae gofyn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel awdurdod cyhoeddus roi sylw dyledus i'r canlynol wrth wneud penderfyniadau er mwyn:
- atal gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, a
- symud ymlaen gyda chydraddoldeb.
- mae gofyn i ni hefyd feithrin perthynas dda rhwng y bobl hynny sy'n rhannu rhai o'r nodweddion gwarchodedig a'r rhai sydd ddim.
Un ffordd o roi sylw dyledus yw cwblhau asesiadau o'r effaith posib y gall newidiadau i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion ei gael ar gydraddoldeb.
Nod yr asesiadau effaith ar gydraddoldeb yw sicrhau bod materion yn ymwneud â chydraddoldeb wedi eu hystyried drwy gydol y broses o wneud penderfyniadau ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud.
Mae'r Asesiadau yn amlygu risgiau ac yn manteisio i'r eithaf ar fuddion y cynigion yn nhermau cydraddoldeb. Y maent felly'n ein helpu i sicrhau bod gan bawb fynediad cydradd at ein gwasanaethau ac y maent yn dangos ein bod wedi ystyried pawb y gallai'r cynigion effeithio arnynt. Maent yn ein helpu i gwrdd â'n goblygiadau deddfwriaethol o dan ein dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol (Deddf Cydraddoldeb Sengl 2010).
Bydd ein hagwedd tuag at yr Asesiadau yn ein helpu i atgyfnerthu'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i hybu cydraddoldeb.
Asesiad Effaith Cychwynnol - Iechyd a Diogelwch
Asesiad Effaith Llawn - Iechyd a Diogelwch
Datguddio er lles y cyhoedd (chwythu'r chwiban) a Llwgrwobrwyo