
Diogelwch barbeciw
Barbeciwiau Siarcol
Gwnewch yn siŵr bod eich barbeciw yn gweithio’n iawn.
Dylech gadw bwced o ddŵr, bwced o dywod neu bibell ddŵr gardd gerllaw rhag ofn y bydd argyfwng.
Gwnewch yn siŵr bod safle eich barbeciw yn fflat ac yn ddigon pell o adeiladau, ffensys, coed a llwyni.
Defnyddiwch ddigon o siarcol i orchuddio gwaelod y barbeciw yn unig, i ddyfnder o tua 50mm (dwy fodfedd).
Cadwch blant, gemau gardd ac anifeiliaid anwes i ffwrdd o’r man coginio.
Barbeciwiau Nwy
Gwnewch yn siŵr fod y tap wedi’i droi i ffwrdd cyn i chi newid y silindr nwy.
Newidiwch silindrau nwy yn yr awyr agored os yn bosibl neu agorwch y drysau a’r ffenestri er mwyn cael digon o aer.
Ar ôl i chi orffen coginio, trowch y silindr nwy i ffwrdd cyn i chi droi’r barbeciw ei hun i ffwrdd, er mwyn sicrhau eich bod wedi defnyddio unrhyw nwy sydd ar ôl yn y beipen.
Peidiwch â chadw silindrau nwy nad ydych eu hangen. Dychwelwch yr holl silindrau gwag i’r lle y gwnaethoch eu prynu.
Cliciwch yma toi weld ein fideo ar ddiogelwch barbeciwiau.