
Tanau simnai
Dylid glanhau a gwirio’r holl simneiau a chyrn simnai er mwyn sicrhau eu bod yn lân ac yn gweithio’n iawn cyn i’r tymor gwresogi ddechrau. Gall simnai sydd â rhywbeth ynddo achosi tanau simnai a gwenwyn carbon monocsid felly mae’n bwysig eich bod yn cyflogi rhywun proffesiynol i lanhau’r simnai, rhywun a gydnabyddir gan Gymdeithas Genedlaethol Glanhawyr Simnai.
Bydd y dull o gynnal a gadw eich simnai yn dibynnu ar y math o danwydd y byddwch yn ei losgi – os ydych yn llosgi olew neu nwy, dylech lanhau eich simnai unwaith y flwyddyn, Bitwmaidd – glo, ddwywaith y flwyddyn, coed hyd at bedair gwaith y flwyddyn a glo di-fwg o leiaf unwaith y flwyddyn.
Peidiwch â llosgi coed gwlyb – rhaid i’r holl goed y byddwch yn ei losgi fod â chynnwys lleithder o lai nag un deg saith y cant.
Wrth feddwl am wresogi eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn prynu dyfais sydd o’r maint cywir ar gyfer eich ystafell – ni fydd dyfais rhy fawr fyth yn ddigon poeth i wneud defnydd o’r holl danwydd sydd yn y coed a bydd tanwydd heb ei losgi yn mynd i fyny’r simnai fel mwg ac yn casglu yn y simnai fel math o greosot fflamadwy.
Cliciwch yma i weld ein fideo ar sut i atal tanau simnai.