Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/23 a Chyllideb 2020/21

Pwrpas yr Adroddiad

Cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/23 i’r Aelodau, ynghyd â’r cyllidebau refeniw a chyfalaf drafft ar gyfer 2020/21.

Crynodeb Gweithredol

Rhaid i’r Awdurdod Tân ac Achub (yr Awdurdod) osod cyllideb fantoledig ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r adroddiad yn nodi’r gyllideb refeniw a chyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21, ynghyd â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r rhagdybiaethau allweddol, y risgiau a’r ansicrwydd a ganfuwyd wrth gynllunio’r gyllideb. Mae’r adroddiad yn cadarnhau faint o arian sydd ei angen gan bob awdurdod lleol cyfansoddol.

Argymhellion

Gofynnir i’r Aelodau:

  • gymeradwyo’r cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2020/21, ar sail £0.7m o gynnydd yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol;
  • nodi’r risgiau allweddol a’r ansicrwydd a ganfuwyd wrth gynllunio’r gyllideb; a
  • chefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Sylwadau’r Panel Gweithredol

Yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2019, bu’r Panel Gweithredol yn ystyried ac yn nodi’r rhagdybiaethau cynllunio.

Cefndir

Mae angen i sefydliad effeithiol gael nifer o gynlluniau corfforol i sicrhau bod ei amcanion strategol cyffredinol yn cael eu cyflawni. Mae’r datganiad llesiant yn cadarnhau amcanion llesiant tymor hir yr Awdurdod, sef:

  • Cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i fod yn ddiogel os bydd tanau o’r fath yn digwydd; a
  • Hwyluso gwasanaethau tân achub sydd o ansawdd uchel, sy’n ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn gallu parhau i fod ar gael pryd a lle mae eu hangen, a hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg.

Mae’r gwaith o ddatblygu a chymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cefnogi’r amcanion hyn, ac mae’n sicrhau bod dull strategol yn cael ei ddilyn wrth ddelio â gwaith cynllunio ariannol a chyllido.

Roedd yr Awdurdod yn cydnabod y mesurau cyni oedd eu hangen yn y sector cyhoeddus, a rhwng 2010 a 2017 canfu gwerth £3m o arbedion (sef 10% o’i gyllideb) ac fe wnaeth 9% o ostyngiad yn y gweithlu, a hynny ar draws pob grŵp o staff.

Wrth ystyried y cynlluniau ariannol ar gyfer 2017/18, sylweddolodd yr Aelodau nad oedd yn gynaliadwy ceisio rhewi cyllideb yr Awdurdod. Felly, fe wnaeth yr Aelodau fabwysiadu strategaeth ariannol am y cyfnod 2017/20 i geisio cael cynaliadwyedd ariannol drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn, cyfraniadau ariannol uwch ac ystyried lleihau Gwasanaethau.

Mae’r Awdurdod yn cael ei gefnogi gan Weithgor Cynllunio sy’n cael ei arwain gan yr aelodau. Cyfarfu’r gweithgor dair gwaith rhwng Ionawr a Mawrth 2019 i ddatblygu argymhellion ar gyfer Cynllun Gwella a Llesiant blynyddol 2020/21 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Roedd y Gweithgor yn argymell bod yr Awdurdod yn cadw’r modelau cyflwyno gwasanaethau presennol a bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddatblygu a mabwysiadu Strategaeth Amgylcheddol i’w chyflawni o fis Ebrill 2020 ymlaen. Fe wnaeth yr Awdurdod dderbyn yr argymhelliad hwn, a dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod mis Medi 2019.

Cyllideb Refeniw a Chyfalaf Ddrafft 2020/21

Mae gwaith cynllunio manwl wedi cael ei wneud, ac mae’r prif ragdybiaethau cynllunio, y risgiau a’r ansicrwydd yn cael eu hamlinellu yn atodiad 1.

Mae’r broses gynllunio wedi cadarnhau mai £39.9m yw’r gofyniad gwariant net ar gyfer 2020/21, sef 2% o gynnydd o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae crynodeb fesul penawdau’r gyllideb ar gael yn atodiad 2.

Mae cynnig y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn gofyn am £0.7m o gynnydd yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol. Mae Atodiad 4 yn darparu crynodeb fesul awdurdod lleol.

Costau gweithwyr yw 72% o’r holl wariant, ac mae’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 yn £27.7m, sy’n rhagdybio 2% o ddyfarniad cyflog i’r holl staff. Gan nad yw’r dyfarniadau cyflog cenedlaethol wedi cael eu cwblhau’n derfynol eto, mae hyn yn risg cynllunio sylweddol o hyd. Mae’r gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod costau gweithwyr yn cael eu rheoli’n ofalus, gan gynnwys gweithredu gwelliannau ar gyfer rheoli cyflogau sy’n amrywio.

Mae cyfraniadau’r cyflogwr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi cael ei ailasesu ar ôl derbyn y prisiad actiwaraidd teirblynyddol. Mae hyn wedi cadarnhau bod £0.3m o gynnydd blynyddol.

Mae cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer diffoddwyr tân wedi cynyddu yn 2019/20, a hynny’n dilyn ailbrisiad gan Adran Actiwari’r Llywodraeth. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu cymorth cychwynnol a disgwylild penderfyniad ynglŷn â’r sefyllfa hirdymor yn yr Adolygiad Gwariant ym mis Medi 2019. Ni chafwyd cyhoeddiad eto ynghylch y sefyllfa yn 2020/21 ac ymlaen, ac mae hyn yn golygu risg o £1.3m. Ar hyn o bryd, y rhagdybiaeth o ran y gyllideb yw y bydd cyllid yn dod i law.

Nid oes cynnydd chwyddiannol wedi cael ei roi ers sawl blwyddyn i’r cyllidebau nad ydynt yn gyflogau. Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb, ystyriwyd y risgiau penodol sydd ymhob pennawd yn y gyllideb, ac arweinodd hyn at £0.4m i £8.2m o gynnydd arfaethedig. Dyma 5% o gynnydd o’r naill flwyddyn i’r llall, ac mae hyn yn adlewyrchu pwysau arwyddocaol ac amhosibl eu hosgoi mewn perthynas â chostau cyfleustodau, gwaith cynnal a chadw wedi cronni, costau tanwydd a chostau TGCh, gan gynnwys trwyddedau meddalwedd a chontractau cynnal a chadw.

Mae costau ariannu cyfalaf yn cynnwys costau benthyca a thaliadau refeniw am ddefnyddio asedau cyfalaf. Rhagwelir cynnydd yng nghyfraddau sylfaenol Banc Lloegr yn ystod 2020/21 ac mae hyn wedi’i gynnwys yn y gyllideb. Mae’r gyllideb ariannu cyfalaf ar gyfer 2020/21 wedi cael ei gostwng, sy’n adlewyrchu’r camau a gymeradwyd dros y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf i leihau’r rhaglen gyfalaf.

Mae cynllun cyfalaf drafft wedi cael ei amlinellu yn atodiad 3, sy’n cadarnhau £4.1m o ofyniad cyfalaf ar gyfer 2020/21. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad hanfodol mewn peiriannau tân a chyfarpar amddiffyn personol newydd. Bydd y gwariant cyfalaf hwn yn cael dylanwad wedyn ar y taliadau ariannu cyfalaf mewn blwyddyn ariannol diweddarach, fel y nodir yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020/23

Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gael yn atodiad 2, ac mae’n asesu’r costau sy’n gysylltiedig â chynnal y lefel gyfredol o wasanaethau. Gwariant yn gysylltiedig â gweithwyr yw’r brif sbardun costau, ac mae’r strategaeth ariannol tymor canolig yn seiliedig ar 2% o ddyfarniad cyflog fel rhagdybiaeth gynllunio.      

Mae’r prif risgiau ac ansicrwydd ar gyfer y Strategaeth wedi cael eu hamlinellu yn atodiad 1. Y rhagdybiaeth gynllunio bresennol ar gyfer y Strategaeth yw bod yr arian grant ychwanegol ar gyfer prosiect Airwave, dyfarniadau cyflog yn fwy na 2% a’r costau pensiwn ychwanegol sy’n deillio o brisiad Adran Actiwari’r Llywodraeth yn cael ei ariannu’n ganolog.

Goblygiadau

Amcanion Llesiant

Mae’r gyllideb yn galluogi’r Awdurdod i gyflawni ei amcanion llesiant tymor hir, sef:

Cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i fod yn ddiogel os yw tanau o’r fath yn digwydd;

Hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, yn ymatebol ac wedi’u hintegreiddio’n well fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn gallu parhau i fod ar gael pryd a lle mae eu hangen, a hynny’n fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg.

Cyllideb

£0.7m yw’r amcangyfrif presennol o’r gwahaniaeth rhwng y gyllideb bresennol a’r gofyniad ar gyfer 2020/21.

Cyfreithiol

Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr Awdurdod Tân ac Achub i osod cyllideb refeniw fantoledig.

Staffio

Dim

Cydraddoldeb/Hawliau Dynol/Y Gymraeg

Dim

Risgiau ac Ansicrwydd

Aseswyd risgiau’r gyllideb ddraft, a nodwyd y risgiau allweddol a ganlyn:

Mae’r gyllideb yn seiliedig ar ragdybiaeth mai 2% fydd y dyfarniadau cyflog. Ni ddaethpwyd i gytundebau cenedlaethol eto;

Y rhagdybiaeth gynllunio yw y bydd parhad yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru tuag ar y cynnydd ym mhensiynau diffoddwyr tân. Os na chefnogir hyn, bydd £1.3m o risg;

Y rhagdybiaeth gynllunio yw y bydd £0.4m o gyllid yn parhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith cenedlaethol y gwasanaethau brys (grant Airwave);

Mae’r Awdurdod yn bwriadu datblygu Strategaeth Amgylcheddol yn ystod 2020/21. Nid ydym wedi gwneud asesiad o’r costau eto; ac

Mae’r ansicrwydd mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau, ac nid oes costau ychwanegol wedi cael eu cynnwys yng nghyllideb 2020/21.

 

Atodiadau

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen