Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân eithin yn Rhewl ger Llangollen – y diweddaraf am 6.00pm

Postiwyd

Mae peiriannau o Ruthun, Johnstown, Wrecsam, Rhyl, Bala a Bwcle, cerbydau mynediad cyfyng o Lanrwst, Llangollen a Dinbych, dau gerbyd tanau awyr agored o Abergele ac un o Gorwen mewn tân yn Rhewl, Llangollen.

Daeth galwad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am 1.13pm heddiw (dydd Mawrth 1af Mehefin) i roi gwybod am y tân.

Mae diffoddwyr tân wrthi’n defnyddio teclynnau taro a riliau pibell yn y digwyddiad sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eithin, isdyfiant a choedwigaeth.

Mae criwiau tân yn gweithio gyda chydweithwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru, Wardeiniaid Sir Ddinbych o Gyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a’r grŵp gwirfoddolwyr 4 x 4 i ddod â’r digwyddiad dan reolaeth.

Bydd hofrennydd yn dod i’r digwyddiad cyn bo hir, a bydd yn cario dŵr o gronfa ddŵr Llandegla i helpu i ddiffodd tân.

Dylech osgoi’r ardal tra bydd y criwiau’n delio â’r digwyddiad – os ydych chi allan yn cerdded peidiwch â cherdded drwy’r mwg.

Os gallwch chi arogli mwg, caewch eich ffenestri a’ch drysa

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen