Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tynnu sylw at ba mor bwysig yw systemau chwistrellu dŵr ar ôl tân sosban saim yn y Fflint

Postiwyd

Llwyddwyd i ddiffodd tân mewn bloc uchel o fflatiau diolch i system chwistrellu dŵr effeithiol.

Cafodd tri pheiriant tân eu hanfon at dân yn Richard Heights, y Fflint heno (3 Gorffennaf) am 17.42 o’r gloch.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn yn ei 70au ei drosglwyddo i’r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer anadlu mwg.

Cafodd y tân ei ddiffodd yn gyflym gan y system chwistrellu dŵr, ac roedd y tân wedi’i gyfyngu i ardal y gegin yn y fflat. Llwyddodd deuddeg o bobl i ddianc o’r adeilad yn ddiogel.

Sosban saim wedi’i gadael ar ddamwain heb neb yn cadw golwg arni wnaeth achosi’r tân.

Dywedodd Lee Williams, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Tân Busnes yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos yn glir pa mor bwysig yw systemau chwistrellu dŵr ar gyfer helpu i osgoi tân rhag lledaenu.

“Mae’r ffaith fod y system chwistrellu wedi gweithredu’n gyflym wedi helpu i ddiogelu preswylydd y fflat rhag niwed difrifol, yn ogystal ag wedi osgoi difrod difrifol i’w fflat a tharfu’n sylweddol ar weddill yr adeilad a’r preswylwyr petai’r tân wedi lledaenu.

“Dyma rybudd hefyd i bawb fod gadael sosban saim heb neb yn gadael golwg arni, hyd yn oed am amser byr, yn gallu cael canlyniadau dinistriol oherwydd mae’n hawdd i’r olew orboethi a mynd ar dân.

“Mae pobl yn cymryd mai rhywbeth o’r gorffennol yw coginio sglodion mewn sosban o olew poeth, ond rydym wedi cael tri digwyddiad o’r fath yn yr wythnos ddiwethaf yn unig.

"Byddem yn argymell sglodion popty, defnyddio ffriwr saim dwfn â thermostat, neu gael tecawê fel dewis mwy diogel, ond os bydd pobl yn dewis ffrio, cofiwch aros wrth y sosban – peidiwch â chael eich temtio i’w gadael heb gadw golwg arni."

Mae Cymru wedi arwain y ffordd wrth hybu diogelwch tân a diogelu trigolion a busnesau – mae systemau chwistrellu dŵr yn hynod o effeithiol am ddiogelu rhag tân, amddiffyn pobl, diffoddwyr tân, swyddi, cartrefi, busnesau, yr economi a’r amgylchedd, yn ogystal â sicrhau manteision sy’n llawer mwy na’r gost o’u gosod a’u cynnal a chadw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen