Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dwy ddynes yn dianc o dân yn Ewlo

Postiwyd

Fe wnaeth dynes yn ei chwedegau a’i chymydog, dynes yn ei nawdegau, ddianc o dân yn eu cartrefi yn Woodside Close, Ewlo yn ystod oriau mân y bore yma.

Fe ddeffrodd y ddynes yn y byngalo cyntaf a chanfod bod y to ar dân. Llwyddodd i adael yr eiddo yn gyflym wedi i’r larymau mwg seinio rhybudd. 

Roedd y tân wedi lledaenu i do’r byngalo drws nesaf sy’n gartref i ddynes yn ei nawdegau. Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân ei chario o’r adeilad a oedd yn llawn mwg. Fe’i cludwyd i’r ysbyty ond mae wedi cael ei rhyddhau erbyn hyn.

Derbyniwyd yr alwad am 23.26 o’r gloch neithiwr, Ebrill 19, ac fe anfonwyd dau griw o Lannau Dyfrdwy, criw o Fwcle a chriw o’r Wyddgrug at y digwyddiad i daclo’r tân.

Fe achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r eiddo cyntaf a difrod tân 30% i do’r ail eiddo a difrod mwg a dŵr 100%.

Credir mai tân trydanol ydoedd.

Meddai Paul Scott, sy’n Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  “Yr wyf yn falch iawn o’n criwiau a weithiodd yn gyflym ac effeithiol i achub y ddynes a dod â’r tân dan reolaeth.

“Rydym yn falch iawn bod y ddwy wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf - mae a wnelo ein gwaith ag amddiffyn ein cymunedau ac achub bywydau, trwy ymateb mewn cyfyngder a helpu i atal tanau ac addysgu pobl i gadw’n ddiogel rhag tân.

“Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân a all eich galluogi chi a’ch teulu i ddianc yn ddianaf o dân yn eich cartref. Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach rhad ac am ddim i bawb lle bydd aelod o’r Gwasanaeth yn dod i’ch cartref i rannu cyngor, eich helpu i lunio cynllun dianc a darparu larymau newydd - a’r cyfan am ddim.

 

“I gofrestru am archwiliad diogel ac iach rhad ac am ddim, ffoniwch ein rhif ffôn 24 awr 0800 169 1234.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen