Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am sigaréts yn dilyn tân yng Nghaergybi

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn tynnu sylw at beryglon sy’n gysylltiedig â bod yn ddiofal wrth gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu, ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw larymau mwg, yn dilyn tân yng Nghaergybi yn oriau mân fore heddiw.

Fe wnaeth teulu o saith ddianc o’u cartref ar Ffordd Llundain, Caergybi ar ôl i larwm mwg roi gwybod iddynt am dân y credir iddo gael ei gynnau gan sigarét wedi cael ei thaflu’n ddiofal.

Am 02:45am, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wybod am dân yn y tŷ teras, ac aeth y criwiau at y safle i ganfod bod y teulu, sef dau oedolyn a phump o blant ifanc, wedi dianc o’r eiddo. 

Aethpwyd â’r preswylwyr mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gael archwiliad, ac maent yn dal yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Credir bod y tân wedi cynnau yng nghefn y tŷ, ac yna wedi lledaenu i’r tŷ drwy’r drws cefn. Achoswyd difrod tân i’r drws, ac achoswyd difrod mwg ymhob rhan o’r eiddo.

Aeth Simon Bromley, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, i’r digwyddiad. Dywedodd:

“Fel y profwyd gan y teulu yma, mae larwm mwg yn gallu prynu amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a deialu 999.

"Credir mai’r hyn achosodd y tân yw sigarét wedi cael ei thaflu’n ddiofal, gan losgi eitemau a oedd yn cael eu storio y tu allan i’r eiddo – mae’n hollbwysig gwneud yn siŵr fod pob deunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn iawn, yn enwedig cyn noswylio. Meddyliwch hefyd pa effaith y byddai tân sy’n cynnau mewn eitemau sy’n cael eu storio y tu allan i’ch cartref, ac yn erbyn eich cartref, yn gallu ei chael ar eich gallu i ddianc o’ch cartref os bydd argyfwng.

"Os oes gennych berthnasau neu ffrindiau oedrannus sy’n ysmygu, gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r peryglon posibl - drwy ddilyn y camau isod, gallan nhw helpu i leihau’r risg o dân yn y cartref yn gysylltiedig ag ysmygu.”

- Defnyddiwch flwch llwch priodol a thrwm, sy’n methu troi drosodd yn hawdd ac sydd wedi cael ei wneud o ddefnydd na fyddai’n llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi ar ôl i chi ei gorffen – diffoddwch hi, yn llwyr.

- Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch chi wedi blino, wedi cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu wedi bod yn yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu tra mae eich sigarét yn dal i losgi.

- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely – os ydych chi eisiau gorwedd, peidiwch â thanio. Gallech chi syrthio i gysgu a rhoi eich gwely ar dân.

- Peidiwch â gadael sigaréts, sigârs neu bibellau sydd ynghyn heb gadw golwg arnynt – gallant droi drosodd yn hawdd wrth losgi.

- Prynwch danwyr a blychau matsis sy’n wrthsafol rhag plant. Cadwch nhw lle byddai plant yn methu eu cyrraedd.

- Rhowch y llwch mewn blwch llwch, byth mewn basged wastraff sy’n cynnwys sbwriel arall – a pheidiwch â gadael i’r llwch na stympiau’r sigaréts gronni yn y blwch llwch.

Ychwanegodd Simon: “Rydyn ni’n cynnig archwiliadau diogel ac iach yn rhad ac am ddim – bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cynghorion ar ddiogelwch tân, yn eich helpu i greu cynllun dianc o dân ac yn darparu larymau newydd – y cyfan am ddim.

“I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar gael am ddim bob awr o’r dydd a’r nos ar 0800 169 1234.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen