Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ydych chi berchen, yn gweithredu neu’n byw mewn safle masnachol a phreswyl cymysg?

Postiwyd

Fel rhan o ymgyrch diogelwch tân mewn safleoedd trwyddedig gan Wasanaeth ân ac Achub Gogledd Cymru’r wythnos hon, mae uwch swyddog diogelwch tân yn atgoffa pobl sydd berchen, yn gweithredu neu’n byw mewn safleoedd masnachol a phreswyl cymysg am bwysigrwydd cadw diogelwch tân sylfaenol mewn cof.

 

Mae Lee Williams, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn egluro:  “Mae llety preswyl fel arfer uwch ben neu o fewn safleoedd masnachol. Fe all tân mewn safle masnachol effeithiol ar ardaloedd preswyl yr adeilad, a chyda’r nos mae’n bosibl na fydd neb yn sylwi ar y tân tan ei bod hi’n rhy hwyr.

 

“Heb barwydydd tân digonol rhwng y safle masnachol a phreswyl fe all tân mewn siop olygu colli’ch cartref - a heb drefniadau addas i rybuddio preswylwyr a llwybrau dianc diogel, fe all tân mewn busnes ladd pobl. Rhaid i breswylwyr gael rhybudd o dân ac mae’n rhaid iddynt allu dianc o’r adeilad yn ddiogel.”

Yn aml iawn bydd Archwilwyr Diogelwch Tân yn dod wyneb yn wyneb â sefyllfaoedd peryglus mewn safleoedd busnes a all effeithio ar yr ardaloedd y mae pobl yn byw a chysgu ynddynt, yn cynnwys:

 

-        Mynediad i’r llety cysgu drwy’r siop

-        Storio stoc ar hyd llwybrau dianc/blocio llwybrau dianc gyda biniau a sbwriel eraill

-        Pentyrru eitemau hylosg (ee bocsys cardfwrdd a chartonau bwyd)

-        Dim larymau tân neu larymau tân a threfniadau rhybuddio annigonol

-        Allanfeydd wedi cloi neu’n anodd eu hagor

-        Tyllau mewn parwydydd, lloriau a nenfydau sydd yn caniatáu lledaeniad mwg a thân

-        Gwyntyllau echdynnu heb gael eu glanhau na’u cynnal a’u cadw’n iawn yn y gegin

-        Dim offer diffodd tân neu offer annigonol

-        Heb archwilio na chynnal a chadw gosodiadau trydan yn iawn neu ddim o gwbl

 

Fe ychwanegodd Lee: “Os ydych chi’n gyfrifol am safleoedd o’r fath rydych yn torri’r gyfraith os ydych chi’n peryglu bywydau. Fe allwn archwilio’ch safle fel rhan o’n cyfrifoldeb i orfodi’r gyfraith.

 

“Fe allwn gymryd camau gorfodi cyfreithiol os nad ydych chi’n cyflwyno gwelliannau i gadw pobl yn ddiogel. Os darganfyddwn risg tân difrifol fe allwn eich atal rhag defnyddio rhan o’r safle neu’r safle cyfan; fe allwch orfod cau’ch busnes ac fe all y bobl sydd yn byw ar y safle orfod dod o hyd i rywle arall i aros. Fe allwch hefyd gael dirwy sylweddol neu gyfnod o garchar am dorri’r gyfraith.”

 

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 23 Hysbysiad Gwahardd mewn grym ar hyd a lled y rhanbarth, ac mae 16 o’r rhain mewn safleoedd masnachol a phreswyl cymysg, neu safleoedd masnachol gyda llety cysgu.

 

Ers Ionawr 2018 mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi mynd at 54* o danau mewn safleoedd masnachol a phreswyl cymysg. 

 

Os hoffech siarad gydag un o’n Swyddogion Diogelwch Tân i Fusnesau i gael cyngor RHAD AC AM DDIM, neu os oes gennych bryderon am ddiogelwch pobl sydd yn byw mewn safleoedd o’r fath, cysylltwch â’ch Swyddfa Diogelwch Tân leol:

 

Gwynedd/ Môn:              01286 662999                   Gwynedd.Mon@nwales-fireservice.org.uk               

Sir y Fflint/ Wrecsam:     01978 367870                   Flintshire.wrexham@nwales-fireservice.org.uk               

Sir Ddinbych/ Conwy:     01745 352777                   Conwy.denbighshire@nwales-fireservice.org.uk            

 

*Hyd at 1/12/2020

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen