Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Calan Gaeaf

Postiwyd

Wrth i noson Calan Gaeaf nesáu, mae diffoddwyr tân am atgoffa rhieni i gadw’u plant yn ddiogel trwy beidio â phrynu gwisgoedd ffansi fflamadwy.

Yn dilyn lansiad Ymgyrch BANG  ac apêl gan Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn gofyn i bobl ddathlu Calan Gaeaf yn wahanol eleni, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyhoeddi’r cyngor isod er mwyn i bobl fod yn ymwybodol o’r peryglon a chadw’n ddiogel rhag tân. 

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym eisiau i bobl fwynhau dathlu Calan Gaeaf, ond rydym hefyd am wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r peryglon pe byddai gwisg ffansi eu plentyn yn mynd ar dân. 

“Mae gwisgoedd Calan Gaeaf i blant wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf  ac rydym yn cyhoeddi’r cyngor hwn er mwyn i bobl fwynhau eu hunain a chadw’n ddiogel ar yr un pryd.”

Dyma air i gall gan Paul –

  • Gwiriwch labeli gwisgoedd ffansi cyn eu prynu i weld a ydynt wedi eu gwneud o ddefnydd gwrthdan. Mae gwisgoedd Calan Gaeaf i blant a gwisgoedd ffansi tymhorol eraill yn cael eu hystyried fel teganau. Dylech wirio bod marc CE arnynt i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau diogelwch gofynnol.  Fe all unrhyw ddilledyn fynd ar dân - felly mae’n bwysig eu cadwn ddigon pell oddi wrth fflamau agored.
  • Yn aml iawn mae plant yn gwisgo clogynnau plastig neu fagiau bin fel rhan o’u gwisg - cadwch nhw ymhell o ffyn gwreichion (sbarclers), canhwyllau a fflamau noeth.
  • Defnyddiwch oleuadau batri mewn llusernau yr ydych chi wedi eu gwneud eich hun neu bwmpenni. Maent yn llawer iawn mwy diogel ac yn ddigon rhad i’w prynu.
  • Cymrwch bwyll arbennig gyda chanhwyllau - maent yn hynod beryglus. Fe allant gael eu taro a rhoi gwisgoedd, llenni, dillad a dodrefn ar dân ac achosi tân difrifol.  
  • Os ydi’ch gwisg yn mynd ar dân ‘stopiwch, disgynnwch a rholiwch’, er mwyn ei gwneud hi’n anoddach i’r fflamau ledaenu.  
  • Os ydych chi gyda rhywun a bod eu dillad yn mynd ar dân, dywedwch wrthynt stopio,  disgyn a rholio, yna llethwch y fflamau gyda defnydd trwm megis cot neu flanced.
  • Mewn argyfwng oerwch y llosg gyda digon o ddŵr a cheisiwch gyngor meddygol ar unwaith.  
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen