Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Am gartref mwy diogel byddwch yn effro i bwysigrwydd larymau

Postiwyd

Mae larymau’n achub bywydau ac yn achos tân neu wenwyn carbon monocsid (CO) fe allant roi cyfle i chi fynd allan mewn da bryd.

Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu pwysigrwydd gosod larymau fel rhan o Wythnos Diogelwch yn y Cartref, rhwng yr 28ain o Fedi a’r 4ydd o Hydref.

Yn achos 20% o danau damweiniol mewn anheddau yn y DU fe fethodd y larymau mwg â seinio. Y rheswm mwyaf cyffredin oedd oherwydd nad oedd y tân o fewn cyrraedd y larwm. Felly gofynnwn i breswylwyr osod larymau i amddiffyn pob rhan o’r cartref. Dylid eu gosod yn yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf, gan fod tân yn fwy tebygol o ddigwydd yn yr ystafelloedd hyn. Dim ond tua 15% o gartrefi sydd gan larymau CO. Mae CO yn nwy gwenwynig, na ellir ei weld, ei flasu na’i arogli.

Mae’r NFCC yn argymell gosod larwm CO gweithredol ym mhob ystafell gyda chyfarpar sy’n llosgi tanwydd megis tân agored, stof goed neu gyfarpar nwy megis bwyler neu bopty.

  • Gosodwch o leiaf un larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a hefyd yn yr ystafelloedd yr ydych chi’n eu defnyddio fwyaf
  • Gosodwch larymau carbon monocsid mewn ystafelloedd gyda chyfarpar sy’n llosgi tanwydd
  • Profwch larymau’n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio
  • Gwnewch yn siŵr bod cyfarpar wedi eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n iawn gan berson cofrestredig a chymwys
  • Dydi larymau ddim yn para am byth, newidiwch nhw pob 10 mlynedd o leiaf
  • Os medrwch, cyd-gysylltwch eich larymau

Dyma sylwadau James Bywater, Arweinydd Synwyryddion Cartref yr NFCC: "Mae’r NFCC am i bobl feddwl am y risgiau yn eu cartrefi a sicrhau eu bod yn cymryd camau i atal digwyddiadau a gwneud yn siŵr bod ganddynt y synhwyrydd cywir yn y lle cywir i’w rhybuddio pe byddai digwyddiad. Mae hyn yn golygu gosod larymau mwg yn y cartref, yn enwedig yn yr ystafelloedd a ddefnyddir fwyaf, a gosod larymau carbon monocsid ym mhob ystafell gyda chyfarpar sydd yn llosgi tanwydd.”

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol:  “Rydym wedi bod yn dyst i’r dinistr y gall tanau eu hachosi a gwyddwn y gallai trasiedïau di-rif fod wedi cael eu hatal trwy gymryd rhagofalon syml. Peidiwch â gadael i drasiedi daro’ch teulu chi - stopiwch y tân rhag cychwyn yn y lle cyntaf."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen