Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i gymryd pwyll ar ddechrau’r tymor llosgi

Postiwyd

Mae’r tymor llosgi grug ac eithin yn cychwyn heddiw ac mae diffoddwyr tân yn erfyn ar ffermwyr, perchnogion tir a thrigolion ledled y rhanbarth i gofio cymryd pwyll arbennig a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub os ydynt yn bwriadu llosgi ar eu tir.

Mae’r cod yn caniatáu llosgi rhwng y 1af o Hydref a 31ain Mawrth ar uwchdiroedd a rhwng y 1af o Dachwedd a’r 15fed o Fawrth ym mhob man arall.  

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  

“Ar ddechrau’r tymor llosgi bydd nifer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, gwair, rhedyn ac eithin ar eu tir - rydym ni’n deall pam bod angen gwneud hyn ond hoffwn amlygu pwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug ac Eithin a’n hysbysu ni cyn mynd ati i losgi.

“Yn ogystal â ffermwyr, rydym yn ymwybodol y bydd perchnogion tai weithiau’n llosgi sbwriel neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml iawn yn yr ardd gefn. Rydym yn eich cynghori i beidio â gwneud hyn a hoffwn rannu gair o rybudd - fe all tanau ledaenu’n gyflym iawn ac maent yn anrhagweladwy. Rydym yn erfyn ar drigolion i gael gwared ar wastraff yn gyfrifol a defnyddio safleoedd mwynder dinesig pan fo modd. Os oes raid i chi losgi, yna byddwch yn gyfrifol, a gwnewch yn siŵr bod gennych chi fesurau rheoli addas ar waith, ac ystyried yr effaith posibl ar dai cyfagos.

“Pob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi rydym yn cael ein galw at gamrybuddion di-rif a thanau sydd wedi lledaenu, gan ddinistrio tir ac eiddo ac achosi difrod i’r ecoleg leol - yn ogystal â chlymu adnoddau y gallem wneud defnydd gwell ohonynt yn rhywle arall.

“Felly rydym yn annog unrhyw un sydd yn bwriadu llosgi dan reolaeth i’n hysbysu ni gyntaf trwy alw’n hystafell reoli fel nad ydym yn anfon criwiau allan yn ddiangen.

"Rydym yn gofyn i bawb fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth. Gweithiwch gyda ni i helpu i gadw’n cymunedau’n ddiogel.”

Os ydych chi’n bwriadu llosgi dan reolaeth dilynwch y canllawiau isod:

  • Ffoniwch ystafell reoli GTAGC ar 01931 522006i roi gwybod iddynt pryd ac ymhle  y byddwch yn llosgi
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o bobl ac offer wrth law i reoli’r tân
  • Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a gwnewch yn siŵr nad oes risg i eiddo, ffyrdd na bywyd gwyllt
  • Os collwch reolaeth ar y tân ffoniwch y gwasanaeth tân ac achub ar unwaith gan nodi’ch lleoliad a manylion mynediad
  • Gwnewch yn siŵr bod y tân wedi ei ddiffodd yn llwyr cyn ei adael ac ewch yn ôl y diwrnod wedyn i wneud yn siŵr nad ydyw wedi aildanio
  • Cofiwch - mae’n anghyfreithlon gadael tân yn llosgi neu beidio â sicrhau bod digon o bobl wrth law i’w reoli.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen