Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tanau gardd a choelcerthi: peidiwch â chael eich temtio

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cynghorau lleol a phartneriaid o asiantaethau eraill ar draws Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i beidio cael eu temtio i losgi gwastraff o’u gerddi a’u haelwydydd.

Ar hyn o bryd, mae pawb yn aros gartref gyda’u teuluoedd fwy na’r arfer. Mae’r tywydd cynnes yn golygu fod llawer ohonom yn eistedd yn ein gerddi, sychu dillad tu allan, a mwy o gartrefi gyda’u ffenestri ar agor.

Rydym yn gofyn i drigolion feddwl dwywaith cyn cynnau tanau gardd a choelcerthi i amddiffyn y rhai gall fod â phroblemau anadlu drwy beidio creu mwg yn yr awyr agored.

Mae’r mwg sy’n dod o danau gwastraff gardd yn creu carbon monocsid a llygryddion all effeithio y llwybr anadlu, croen a’r llygaid. Fe all hyn achosi tagu, gwichian a phoen ar y frest, yn enwedig os yw’n llaith ac yn mudlosgi, sy’n effeithio pobl gyda’r fogfa ac afiechydon anadlol eraill. Mae’r bobl hyn hefyd gyda risg uwch o waeledd difrifol yn sgil COVID-19.

Nid yn unig mae llosgi plastig, rwber neu ddeunyddiau wedi’u peintio yn creu arogl annymunol, gall hefyd greu amrediad o gyfansoddion gwenwynig.

Fe fyddai osgoi cynnau tanau hefyd yn helpu ein gwasanaethau brys yn y cyfnod hwn gan fod tanau yn medru lledaenu’n hawdd ac achosi difrod a niwed.

Gofynnwn ni i chi beidio cynnau tanau yn y cyfnod hwn ac:

  • Ystyried eich cymdogion sydd yn treulio eu hamser adref
  • Osgoi gwaethygu’r symptomau i’r rhai sydd efo problemau anadlol

Gall cymdogion gael eu dirwyo os ydynt yn cynnau coelcerth ac yn gadael i fwg ledaenu ar y lôn a pheryglu traffig.

Fe all Tîm Rheoli Llygredd eich cyngor lleol ymyrryd os ydi rhywun yn achosi niwsans cyson gyda’u tanau gerddi a choelcerthi a bod dim modd rhesymu gyda nhw. Nid yw tanau gardd achlysurol yn cael eu hystyried fel niwsans.

Dewch i ni gyd weithio gyda’n gilydd i helpu pawb gadw’n ddiogel yn ein cymunedau ni gyd.

Eglura Tim Owen, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Rydym yn annog y cyhoedd i osgoi gael eu temtio i losgi gwastraff gardd a thŷ yn yr amseroedd digynsail hyn - fe all rhywbeth a fwriadwyd i fod yn dân bychan, neu’n ychydig o hwyl diniwed ledaenu’n sydyn i fod allan o reolaeth.

“Fe all mwg allan o dân achosi problemau anadlu a gwaethygu cyflyrau anadlol megis y fogfa, gan ychwanegu at y risgiau achosir gan Covid-19. Plîs byddwch yn gyfrifol - peidiwch â chynnau’r tân. Rydym yn gofyn i chi ein helpu ni i leihau’r galw yn ystod y cyfnod hwn.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen