Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes yn marw yn dilyn tân yn ei chartref yn Abergele

Postiwyd
 
Yn drist iawn bu farw’r ddynes a achubwyd o dân yn ei chartref yn Abergele ddoe. 
 
Galwyd criwiau o Abergele a Bae Colwyn at eiddo yng Ngorwel, Abergele am 15.56 o’r gloch, Dydd Mawrth 14eg Ebrill.
 
Achubwyd dynes o’r eiddo gan swyddogion heddlu a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a gyrhaeddodd y digwyddiad yn gyflym. Cafodd ei chludo i’r ysbyty, ond yn drist iawn bu farw’n ddiweddarach.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamerâu delweddu thermol i daclo’r tân a achosodd ddifrod tân a mwg sylweddol i'r ystafell fyw a drifod mwg i weddill yr ystafelloedd yn yr eiddo un llawr.
 
Meddai Stuart Millington  o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Cydymdeimlwn yn ddwys gyda theulu a ffrindiau’r fenyw yn ystod y cyfnod trist hwn.
 
“Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru - rydym yn erfyn ar bawb i gymryd pwyll arbennig yn y cartref.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen