Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rydym ni’n Barod, Bodlon ac Abl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi’r ymgyrch “Parod, Bodlon ac Abl” gan Gyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC), a lansiwyd heddiw (y 15fed o Ebrill), sydd yn dangos sut mae gwasanaethau tân ac achub yn y DU yn parhau i amddiffyn a chefnogi eu cymunedau yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae diffoddwyr tân a staff cymorth ledled Gogledd Cymru yn defnyddio ei sgiliau eang i dawelu meddyliau a helpu’r gymuned wrth ymateb i’r argyfwng cenedlaethol.

Rydym ni’n dal i weithio gyda’n sefydliadau partner megis y Fforymau Cyd-nerthedd Lleol, yn ogystal â chefnogi partneriaid iechyd lleol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Dyma gyfnod anodd a heriol ac rydym yn canolbwyntio ar barhau i ddarparu gwasanaeth ymateb brys effeithiol ac effeithlon i bob cymuned yng Ngogledd Cymru.

Er bod yr amgylchiadau a’r cyngor yn newid yn gyflym, ni fyddwn yn newid ein  hymrwymiad i ddiogelu ein staff a’r bobl hynny yr ydym yn falch o’u gwasanaethu.

Yn ogystal â’n gwasanaeth ymateb brys byddwn yn parhau i ddarparu addysg a gwasanaethau atal ac amddiffyn i gymunedau Gogledd Cymru gyda mesurau rheoli ychwanegol.

Rydym yn Barod, Bodlon ac Abl i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith COVID-19 a helpu i gefnogi pobl yma yng Ngogledd Cymru.

Meddai Roy Wilsher, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân: “Mae Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU yn adnabyddus am eu hymateb proffesiynol i ddatblygiadau annisgwyl ac nid yw’r argyfwng cenedlaethol hwn yn wahanol. Rydym yn falch iawn o griwiau am gamu ymlaen, gan ddefnyddio eu hystod eang o alluoedd a sgiliau i roi sicrwydd a chefnogaeth i gymunedau, wrth barhau i ymateb i argyfyngau, yn ystod yr argyfwng COVID-19.

“Mae eu hymrwymiad i’w cymunedau yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn yn adlewyrchu eu dynoliaeth a’u gofal parhaus.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen