Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Peilot gydag Adra yn amddiffyn trigolion rhag tanau coginio

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a darparwr tai cymdeithasol mwyaf y Gogledd, Adra, wrthi’n cydweithio ar beilot i osod synwyryddion arbennig i helpu i atal tanau coginio.

Mae Dave Evans, Rheolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn egluro mwy: “Coginio ydi prif achos tanau yn y cartref o hyd – ac mae’r rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi eu hachosi gan fwyd sydd wedi cael ei adael yn coginio.

“Fel rhan o’r peilot yma gydag Adra mae’r dechnoleg Stoveguard yn cael ei gosod yn yr uned coginio – mae’r synwyryddion yn mesur tymheredd eithafol a chyfradd y newid mewn tymheredd. Unwaith y mae’r Stoveguard yn synhwyro perygl mae’n diffodd y popty, trwy ddiffodd y pŵer cyn i dân gynnau.

“Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth gydag Adra ar y peilot hwn i amddiffyn pobl yn y cartref, a all helpu i amddiffyn eu tenantiaid mwyaf bregus.

“Hyd y gwyddom Adra ydi’r gymdeithas dai gyntaf yng ngogledd Cymru i ddefnyddio’r dechnoleg newydd yma, ac rydym yn annog eraill i ystyried ei defnyddio.

“Rydym yn cynghori pawb i gymryd pwyll yn y gegin ac i beidio â gadel bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno, ac i beidio ag yfed a choginio. Mae larwm mwg gweithredol yn hanfodol i helpu i’ch rhybuddio chi a’ch teulu o dân coginio neu unrhyw fath o dân yn eich cartref – cymrwch amser i wneud yn siŵr bod eich larymau’n gweithio’n iawn trwy eu profi bob wythnos.”

Meddai Celfyn Evans, Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelwch Tân gydag Adra: “Mae diogelu ein tenantiaid rhag tanau yn y cartref yn hynod bwysig i ni.

“O ystyried bod hanner y tanau sydd yn digwydd yn y cartref yn cychwyn yn y gegin, rydym yn falch o ymuno gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddefnyddio’r dechnoleg Stoveguard ddiweddaraf. Bydd yn ein helpu i gadw ein tenantiaid mwyaf bregus sydd wedi dioddef tanau yn y cartref yn y gorffennol yn ddiogel. Bydd hefyd yn rhoi tawelwch meddwl iddynt wrth ddefnyddio eu cyfarpar coginio.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen