Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth yn ystod llifogydd ym Mhensarn

Postiwyd

Mae criwiau tân wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff o Ddwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru heddiw, wrth ddelio gyda llifogydd ym Mhensarn, Abergele.


Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr alwad am 10.44pm neithiwr (Nos Iau 14eg Mehefin) yn dilyn adroddiadau o lifogydd yn Lon y Cyll, Pensarn, Abergele. Anfonwyd injan a Phwmp Cyfaint Uchel o Landudno at y digwyddiad ac mae staff o'r  ddau sefydliad wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos.  Mae criwiau tân a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi Dwr Cymru a gyda'i gilydd maent wedi atal dwr carthion rhag mynd i mewn i dai ar yr stad.  Cyflawnwyd hyn trwy gydweithio rhagorol rhwng y sefydliadau.

 

Bydd criwiau yn aros ar y safle drwy gydol y dydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen