Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhaglen Cyfiawnder Ieuenctid yn amlygu canlyniadau tanau bwriadol i blant ysgol

Postiwyd

Mae Tîm Lleihau Tanau Bwriadol Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd i greu rhaglen sydd wedi ei hanelu at blant cynradd i adolygu canlyniadau tanau bwriadol.

Bydd y rhaglen ‘Cyfiawnder Ieuenctid’ , sydd wedi ei ariannu gan Sefydliad ScottishPower, y teithio o amgylch ysgolion cynradd ledled Gogledd Cymru dros gyfnod o bythefnos ac mae’n cynnwys drama fer sydd yn amlygu senario tân bwriadol a’r broses yn dilyn darganfod pwy sy’n gyfrifol am gynnau’r tân.

Mae Tim Owen, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol, yn egluro: “Mae ‘Cyfiawnder Ieuenctid’ yn weithdy deinamig, trawsnewidiol, addysgol ar gyfer pobl ifanc i’w hatal rhag cynnau tanau yn fwriadol.

“Mae’n wych ein bod ni wedi cael cyfle i weithio ar brosiect o’r fath i addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysau gan gyfoedion.

“Rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Thîm Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd i ddatblygu’r gweithdy a byddwn yn eu cynorthwyo ym mhob un o’r sesiynau.  

“Mae’r gweithdy’n amlygu peryglon a chanlyniadau tanau bwriadol i’r bobl ifanc a’r effaith y maent yn ei gael ar y gymuned a’r Gwasanaeth Tân ac Achub.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn.”

Meddai’r cyfarwyddwr Emyr John: “Mae Theatr Clwyd yn falch iawn o gael arwain yr ymdrech ddiweddaraf hon i addysgu ein pobl ifanc am ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol. Trwy gyfuno theatr o’r radd flaenaf gydag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a’r Tîm Lleihau Tanau Bwriadol rydym yn benderfynol yn ein nod i ddiogelu amgylchedd gyfoethog Cymru i genedlaethau’r dyfodol.”

Fe ychwanegodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT:  “Rydym ni wrth ein bodd bod Cyfiawnder Ieuenctid, unwaith eto, yn cyrraedd ysgolion cynradd ledled Gogledd Cymru.  Mae’r gal war Gyfiawnder Ieuenctid eleni wedi bod yn rhagorol sydd yn dangos pa mor werthfawr ydi’r rhaglen i’r ysgolion.  Rydym ni’n falch iawn bod y Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yn rhan o’r rhaglen eleni i fynd i’r afael â thanau bwriadol. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Sefydliad ScottishPower am eu cefnogaeth.”

Meddai Ann McKeckin, Ymddiriedolwr a Phrif Weithredwr Sefydliad ScottishPower: “Trwy ddefnyddio drama i edrych ar bynciau cymhleth a heriol mae Cyfiawnder Ieuenctid wedi dod o hyd i ffordd unigryw o ymgysylltu gyda phobl ifanc.  Mae mentrau blaenorol Theatr Clwyd wedi cael effaith ac rydym ni’n falch o gael cefnogi’r prosiect eto eleni.”

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen