Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru

Postiwyd

Ers lansio Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru (WARS) am y tro cyntaf yn 2007, gwelwyd lleihad sylweddol yn nifer y tanau bwriadol ledled Cymru, gyda gostyngiad amcangyfrifedig o 68% rhwng 2006 a 2014. Cyflawnwyd hyn gyda phenderfyniad a gwaith caled yr holl asiantaethau sydd wedi bod yn rhan o’r fenter.

Fodd bynnag,  mae tanau bwriadol yng Nghymru yn parhau i fod yn berygl amlwg i’n hamgylchedd, ein heconomi a’n cymunedau. Gan adeiladu ar yr wybodaeth a’r profiad yr ydym wedi eu hennill yn ystod y degawd diwethaf, daeth yn amser datblygu’r strategaeth ymhellach a chyhoeddi pedwaredd genhedlaeth Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru (WARS). Mae prif faes ffocws y Strategaeth newydd hon yn cydnabod gwerth gweithio gyda chymunedau ac unigolion; rydym yn eu hannog i rannu’r cyfrifoldeb er mwyn ein galluogi, ar y cyd, i waredu tanau bwriadol yn yr ardaloedd lle rydym yn byw ac yn gweithio, ac yn yr ardaloedd yr ydym yn ymweld â nhw.

I gyflawni’r Strategaeth, sefydlwyd y Bwrdd Lleihau Tanau Bwriadol (SARB). Cadeirydd y grŵp yw’r Dirprwy Brif Swyddog Tân, Roger Thomas, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae’n cynnwys partneriaid o Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a De Cymru, Llywodraeth Cymru, pedwar Heddlu Cymru, GIG Cymru, Crimestoppers, y Swyddfa Dywydd, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, CLlLC, CNC, CFfI Cymru a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân Thomas, “Rwy’n cydnabod pwysigrwydd gweithio’n agos gyda’n partneriaid, ac mae ein llwyddiannau yn y gorffennol yn ganlyniad uniongyrchol i waith caled, arloesedd ac egni ein Cyd-grŵp Tanau Bwriadol. Rwyf o’r farn mai ’nawr yw’r amser iawn ar gyfer strategaeth newydd a fydd yn ailffocysu’r ymdrechion yn yr ardal hon, ac yn ehangu cyfrifoldeb ein partneriaid a’n cymunedau i leihau tanau bwriadol ledled Cymru.

Mae’r Strategaeth yn nodi datganiad o Weledigaeth a Chenhadaeth y Bwrdd ac yn cynnwys pum Amcan Strategol sy’n canolbwyntio ar alwad am newid diwylliannol ledled Cymru i ddangos bod tanau bwriadol yn annerbyniol yn gymdeithasol yn y gymuned.

Dywedodd Mydrian Harries, y Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chadeirydd y Cyd-grŵp Tanau Bwriadol, “Rydym wedi bod yn dyst i’r dinistr y mae tanau bwriadol yn ei achosi i gymunedau, a bydd gweithio gyda’n partneriaid yn sicrhau ein bod yn darparu ymyraethau priodol, targededig ac effeithiol i atal tanau a gyneuir yn fwriadol.”

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru ar gyfer 2019.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen