Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ymgyrch i recriwtio ddiffoddwr tân llawn amser

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn paratoi i agor cyfnod ymgeisio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser.

Bydd modd cofrestru ceisiadau ar-lein rhwng hanner dydd, Dydd Llun 8 Ebrill a hanner dydd, Dydd Mercher 10 Ebrill.

Meddai Stuart Millington Uwch Reolwr Gweithrediadau: “Mae gennym ni ymgyrch eisoes ar waith i recriwtio diffoddwyr tân ar alw (neu system ddyletswydd rhan amser) ledled y Gwasanaeth sydd yn cael ei gefnogi gan wefan genedlaethol www.oncallfire.uk ac sydd yn annog pobl â diddordeb mewn swydd ran amser i gysylltu gyda’u gwasanaeth tân lleol drwy gydol y flwyddyn.

“Rydym nawr yn paratoi i lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser sydd yn rhywbeth nad ydym ni wedi ei wneud ers tro – a bydd y cyfnod ymgeisio yn agored am 48 awr yn unig.

“Rydym ni eisiau i bobl ymuno â’n tîm – a phwysleisio nad oes y fath beth â diffoddwr tân arferol. Croesawir ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Rydym ni’n recriwtio ar sail teilyngdod a gallu, felly os ydych chi’n ddyn, dynes, byr neu dal, ac os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r gallu cadwch lygaid ar ein gwefan ac ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y broses recriwtio, yn ogystal â’r digwyddiadau blasu a’r nosweithiau agored.

“Ar hyn o bryd rydym ni’n hybu Diwrnod Blasu i Ferched ar 23ain Mawrth yng Ngorsaf Dân y Rhyl. Mae rôl y diffoddwyr tân modern yn heriol, rhoi boddhad ac yn amrywiol – ac ar gyfer rôl mor amrywiol mae angen gweithlu amrywiol arnom ni hefyd sydd yn adlewyrchu’r cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu. Yn ystod ein hymgyrch ddiwethaf i recriwtio diffoddwyr tân llawn amser dim ond 12% o’r ymgeiswyr oedd yn ferched – ond mae 50% o’r gymuned yn ferched.

“Mae’r Diwrnod Blasu wedi cael ei drefnu i wneud yn siŵr bod merched yn gwneud dewis gwybodus ynghylch gyrfa posib fel diffoddwr tân ac er mwyn er mwyn i lai o ferched ddad-ddewis eu hunain oherwydd camsyniadau, hen stereoteipiau neu fythau. Dydi Diwrnodau Blasu ddim yn gyfle i gyflymu’r broses i rai pobl na rhoi mantais i rai grwpiau dros eraill - rhaid i bob ymgeisydd ddilyn yr un broses recriwtio a chyrraedd yr un lefel yn ystod unrhyw brofion neu asesiadau.

“I gofrestru ar gyfer Diwrnod Blasu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk lle cewch hefyd lu o wybodaeth ar y gofynion i fod yn ddiffoddwr tân llawn amser.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen