Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cludo teulu o bedwar i’r ysbyty yn dilyn tân yn eu cartref

Postiwyd

Cafodd teulu o bedwar eu cludo i’r ysbyty am driniaeth yn dilyn tân yn eu cartref yng Ngwernymynydd yn ystod oriau  mân y bore yma.  Credir bod y tân wedi ei achosi gan oergell.

Anfonwyd criwiau o’r Wyddgrug a Bwcle i’r eiddo yn Godre’r Coed, Gwernymynydd, ger yr Wyddgrug am 00.59 o’r gloch y bore yma (Dydd Sadwrn yr 2il o Chwefror).  

Defnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i daclo’r tân.  Cludwyd dau oedolyn a dau blentyn i’r ysbyty am driniaeth o ganlyniad i anadlu mwg.

Nid oedd unrhyw synwyryddion mwg yn yr eiddo, a credir bod y tân wedi ei achosi gan oergell yn y gegin.

Meddai Tim Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y teulu yma’n lwcus iawn eu bod wedi deffro a dianc yn fyw – mae larymau mwg yn hanfodol i roi rhybudd cynnal o dân yn y cartref.

 “Mae’n bwysig bod mor barod â phosibl rhag tân, drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a llwybrau dianc clir  i’ch galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gynted â phosib. 

“Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu peryglon tanau trydanol – fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Yn ddiweddar fe wnaethom ni lansio ymgyrch ‘Diogelwch Nwyddau Gwyn’, sydd yn amlygu pwysigrwydd defnyddio nwyddau gwyn sy’n cael eu defnyddio bob dydd yn ddiogel.

"Hefyd, dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • PEIDIWCH Â gorlwytho socedi gyda phlygiau
  • ARCHWILIWCH wifrau’n rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio
  • TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da."

“Am ragor o wybodaeth ar ddiogelwch Nwyddau Gwyn ewch i’n gwefan – www.gwastan-gogcymru.org.uk.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen