Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Busnesau 2018

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor diogelwch tân i fusnesau fel rhan o Wythnos Diogelwch Busnesau Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC).

 

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 10fed-16eg Medi a’r nod yw darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sydd yn gyfrifol am fusnesau ac adeiladau cyhoeddus i leihau achosion o danau a galwadau ffug yn y gweithle, sydd yn effeithio ar ddiogelwch busnes a chynhyrchiant.

 

Mae’r wythnos yn annog pob busnes i wirio eto eu bod wedi cymryd y camau angenrheidiol yn ôl y gyfraith i amddiffyn eu busnes a’u gweithwyr rhag tân. Bydd cyngor hefyd yn cael ei roi ar atal tanau bwriadol, lleihau larymau ffug, ac, os oes angen, rhoi cyngor diogelwch tân ar gyfer safleoedd sydd yn darparu llety.

 

Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn gallu bod yn gyfnod prysur iawn ar gyfer busnesau ac felly mae’r NFCC yn gofyn ar i bobl fanteisio ar y cyfle nawr i adolygu eu hasesiadau risgiau a chynlluniau dianc wrth iddynt baratoi ar gyfer y Nadolig gan y byddant o bosib yn cadw stoc ychwanegol ac yn cyflogi staff newydd neu dymhorol.

 

Dengys yr ystadegau bod 19,410 o danau wedi bod mewn busnesau yn y DU yn 2016-17 ac roedd 30% ohonynt (5,518) wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

 

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

“Fe all tân gael effaith drychinebus ar fusnesau bach a chanolig.

 

“Yr hyn sydd yn allweddol i atal tanau yn y gweithle ydi sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r peryglon a’u bod wedi eu hyfforddi i ymateb i ddigwyddiad o’r yn hyderus.

 

“Gallwn gynorthwyo a chynghori busnesau ar leihau’r risg o dân - rydym yn annog busnesau lleol i gael gwybod mwy am yr help sydd ar gael er mwyn iddynt allu parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i economi’r DU a’r gymuned leol mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy.”

 

Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk / Eich cadw chi’n ddiogel / Yn eich Busnes neu cysylltwch â’r Tîm Addysg i Fusnesau ar 01745 535 250.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen