Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn helpu i amddiffyn cymunedau trwy’r cynllun ‘Ar goll o’r cartref’

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân o’r 44 gorsaf dân yng Ngogledd Cymru wedi ymuno gyda’r cynllun ‘Ar goll o’r cartref’ sydd yn golygu gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i helpu i chwilio am bobl fregus sydd ar goll.

 

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Byddai gorfod delio gydag anwylyd sydd ar goll yn hunllef i unrhyw un - ond y gwir amdani ydi bod 3,000 o bobl yn cael eu riportio ar goll o’r cartref bob blwyddyn yn ôl yr ystadegau gan Heddlu Gogledd Cymru.

 

“Dechreuom fod yn rhan o’r cynllun ym mis Medi'r llynedd ar ôl dethol ychydig o orsafoedd i gymryd rhan. Rydym bellach wedi ehangu’r cynllun fel bod staff o bob un o’n 44 gorsaf dân wedi cael eu hyfforddi i gael eu galw gan Heddlu Gogledd Cymru i helpu i chwilio am bobl sydd ar goll pan fydd angen.

 

 “Hyd y gwyddom, dyma’r unig fenter o’r fath yn genedlaethol sydd yn drefniant ffurfiol ac un sydd yn cael ei gydlynu’n iawn yn y modd hwn. Mae criwiau yn dal yn barod i ymateb i alwadau tân, ond byddant hefyd yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am bobl sydd ar goll o’r cartref pan fydd angen.

 

“Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan allweddol o’n gwaith - yn ogystal â’r cynllun newydd hwn, mae ein staff amser cyflawn newydd gwblhau hyfforddiant ychwanegol mewn perthynas â sicrhau mynediad i adeiladau heb achosi difrod, er mwyn cynorthwyo pobl sydd angen gofal brys a sicrhau ar yr un pryd bod yr adeilad yn cael ei ddiogelu cyn gadael. Yn ogystal ag amddiffyn ein trigolion pan fyddant mewn angen, mae hyn hefyd yn rhyddhau swyddogion heddlu a fyddai fel arall yn cael eu galw allan i ddiogelu’r adeiladau hyn.

 

“Mae hyn oll yn golygu gweithio i sicrhau bod pawb yn ddiogel ac rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i helpu i amddiffyn y cymunedau yr ydym ni’n eu gwasanaethu.”

 

 

Meddai Richard Debicki, Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n addas iawn bod y gwasanaethau brys yn chwilio am ffyrdd o gydweithio i gynnal a gwella ein gwasanaethu i’r cyhoedd ac rydym yn falch bod y cynllun hwn bellach wedi cael ei ehangu ledled y rhanbarth. Dyma enghraifft ragorol o’r hyn y gall gwasanaethau golau glas ei gyflawni trwy gydweithio.

 

“Mae’r fenter hon yn golygu bod mwy o bobl broffesiynol o’r gwasanaeth brys yn cael eu hanfon at ddigwyddiadau lle mae pobl ar goll, sydd yn golygu bod modd dod o hyd i’r bobl yn gyflymach i leihau’r posibilrwydd y byddant yn dioddef niwed.  Trwy ddod â’n sgiliau, hyfforddiant ac offer  ynghyd gallwn amddiffyn pobl Gogledd Cymru yn well.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen