Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pwysigrwydd larymau mwg a pheryglon sigaréts wedi eu taflu yn cael eu hamlygu ar ôl cwêst i dân ym Methesda

Postiwyd

Cafodd pwysigrwydd larymau mwg a pheryglon sigaréts wedi eu taflu eu hamlygu ar ôl cwêst i dân trasig a ddigwyddodd ym Methesda ym mis Mehefin ac a hawliodd fywyd gŵr 57 oed.

 

Bu farw Michael Beeby ar ôl tân yn ei gartref yn Erw Las, Ffordd Coetmor, Bethesda ar ddydd Mawrth 5ed Mehefin.

 

Daeth y cwest heddiw (dydd Mawrth Hydref 30ain) i’r casgliad bod y tân yn ddamweiniol.

 

Anfonwyd criwiau o Fangor a Llanberis i adroddiadau o dân yn yr eiddo ac fe achubwyd Mr Beeby gan ddiffoddwyr tân cyn cael ei drin yn y fan a’r lle, a’i gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr. Yn anffodus, bu farw’n ddiweddarach.

 

Daeth ymchwiliad tân yn ddiweddarach i’r casgliad bod y tân, mwy na thebyg, wedi ei achosi gan sigarét heb ei diffodd yn iawn.

 

Nid oedd larymau mwg yn gweithio yn yr eiddo.

 

Gan siarad ar ôl y cwêst, meddai Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn gyntaf, hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda’r ffrindiau a’r teulu yn y digwyddiad trasig hwn.

 

“Mae’r tân hwn yn dangos y gall ddigwydd mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd cael larymau mwg sy’n gweithio yn eich crtref, a’u profi’n rheolaidd.

 

“Mae larymau mwg yn roi rhybudd cynnar a all eich helpu chi a’ch teulu i ddianc yn ddi-anaf os oes tân. Mae’n hanfodol hefyd sicrhau bod gennych lwybr dianc wedi ei baratoi ymlaen llaw, sy’n glir a heb urhyw rwystrau, sy’n caniatáu i chi a’ch teulu adael eich cartref yn gyflym ac yn ddiogel os oes tân.

 

“Achos mwyaf tebygol y tân oedd sigarét heb ei diffodd yn iawn.

 

"Trwy ddilyn y rhagofalon syml isod, gall smygwyr nad ydynt yn teimlo eu bod yn barod i roi’r gorau i’w sigaréts eto, helpu i rwystro tân yn eu cartref:

  • Cymerwch ofal ychwanegol pan fyddwch wedi blino, yn cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu os ydych wedi bod yn yfed alcohol. Mae’n hawdd iawn syrthio i gysgu tra bo eich sigarét yn dal i losgi
  • Peidiwch byth â smygu yn y gwely – os oes angen i chi orwedd i lawr, peidiwch â thanio. Gallech fynd i gysgu a rhoi’r gwely ar dân
  • Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs neu bibellau ar eu pennau eu hunain – gallent syrthio drosodd yn hawdd wrth iddynt losgi i lawr
  • Prynwch daniwr a blychau matsys sy’n anodd i blant eu defnyddio – bob blwyddyn mae plant yn marw trwy gynnau tân gyda matsys neu daniwr. Cadwch y rhain lle na all plant eu cyrraedd
  • Defnyddiwch flwch llwch trwm, go iawn na fedr droi drosodd yn hawdd ac sydd o ddeunydd nad yw’n llosgi. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi pan fyddwch wedi gorffen – diffoddwch nhw’n iawn
  • Dodwch eich llwch mewn blwch llwch, byth mewn bin gastraff gyda sbwriel arall ynddo – a pheidiwch â gadael i lwch neu stympiau sigaréts hel yn y llwchflwch.

 

“I gael rhagor o gyngor ar ddiogelwch tân, ewch i’n gwefan www.nwales-fireservice.org.uk, dilynwch ni ar Twitter neu hoffwch ni ar Facebook.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen