Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn dinistrio adeilad hanesyddol

Postiwyd

Mae adeilad hanesyddol ger Trawsfynydd wedi cael ei ddinistrio'n llwyr gan dân.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru wedi i dafarn y Rhiw Goch ar barc gwyliau ger Trawsfynydd gael ei llosgi’n ulw.

Defnyddiwyd chwe pheiriant diffodd tân, dau dendr dŵr a pheiriant cyrraedd yn uchel i daclo’r tân a gychwynnodd am tua 12:30 o’r gloch y bore, dydd Sul 14eg Hydref.

Meddai Kevin Jones,  Rheolwr Grŵp a Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Gonwy a Sir Ddinbych:

"Mae achos y tân, sydd wedi dinistrio 100% o'r adeilad hanesyddol, yn destyn ymchwilad."

"Diolch byth chafodd neb eu hanafu, ac fe lwyddodd y diffoddwyr tân i rwystro'r fflamau rhag lledaenu i adeiladau cyfagos”.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen