Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Galw diffoddwyr tân i ysgol yng Nghoedpoeth

Postiwyd

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i fân ddigwyddiad yn Ysgol Bryn Tabor Yng Nghoedpoeth y prynhawn yma (Dydd Mercher 12fed Gorffennaf).

 Anfonwyd dwy injan dân o Wrecsam i’r digwyddiad am 13.42 o’r gloch.

 Roedd y tân wedi ei gyfyngu i ardal cegin.

 Fe seiniodd y larwm tân rybudd a llwyddodd pawb i fynd allan o’r adeilad yn ddiogel. 

 Fe dderbyniodd dau aelod o’r staff archwiliad rhagofalol yn y fan a’r lle oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.

 Mae’n rhy gynnar i ddweud beth oedd achos y tân ac mae’r swyddogion wrthi’n casglu gwybodaeth.

 Mae pawb wedi cael mynd yn ôl i mewn i’r adeilad erbyn hyn.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen