Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio ynglŷn â phwysigrwydd larymau mwg wedi i deulu ddianc o dân yn eu cartref yn Eryrys

Postiwyd

Mae peryglon tanau trydanol a phwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn cael eu hamlygu wedi i deulu o dri a’u ci ddianc o dân yn eu cartref yn Eryrys, ger yr Wyddgrug yn ystod oriau mân y bore yma.

Anfonwyd criwiau o’r Wyddgrug, Rhuthun a Bwcle i’r eiddo am 04.47 o’r gloch y bore yma, Dydd Mawrth 25ain Ebrill i ddelio gyda thân a oedd wedi cychwyn yn yr ystafell haul.

Roedd cwpl a’u merch mewn oed yn yr eiddo ar adeg y tân.

Cafodd y fam ei rhybuddio am y tân wedi iddi ddod i lawr y grisiau a gweld tan yn yr ystafell haul. Fe rybuddiodd ei theulu cyn dianc drwy ffenestr ar y llawr isaf. Cafodd y tad a’r ferch, a oedd i fyny’r grisiau, gyngor gan staff  yr ystafell reoli tân ac achub cyn cael cymorth gan ddiffoddwyr tân i adael y cartref. 

Aethpwyd â’r tri i’r ysbyty am driniaeth ragofalol.

Achubwyd ci o’r cartref yn ogystal.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol. 

Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.

Meddai Jane Honey o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar i’ch galluogi i fynd allan yn gyflym os bydd tân yn eich cartref.

“Mae’r cwpl yma’n ffodus iawn eu bod wedi dianc yn ddianaf. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy bob wythnos. Hefyd, mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud mewn achos o dân a’ch bod wedi ymarfer eich cynllun dianc. Yn ffodus iawn roedd staff yr ystafell reoli ar ben arall y ffon i roi cymorth i’r trigolion a oedd ar y llawr uchaf er mwyn iddynt gadw mor ddiogel â phosib cyn i’r criwiau tân ac achub gyrraedd.

“Mae’r tân yn amlygu peryglon tanau trydanol - fe allant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le. Ein cyngor yw bod mor barod â phosib rhag tân drwy wneud yn siŵr bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod eich llwybrau dianc yn glir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan cyn gyflymed â phosib.

"Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’ch bod yn archwilio eitemau trydanol rhag ofn eu bod wedi eu difrodi neu dreulio. Mae cymaint o drigolion yn defnyddio lidiau estyn sydd wedi eu torchi ond rydym ni’n argymell eu datod yn llwyr cyn eu defnyddio. 

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:


- PEIDIO gorlwytho socedi
- ARCHWILIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio 
- TYNNU’R plwg os nad ydych yn defnyddio’r cyfarpar
- CADW cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATOD lidiau estyn yn llwyr cyn eu defnyddio

 

“Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – mae’n rhoi gwybod os ydych cyn gorlwytho socedi a’ch helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen