Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Carolau’r Gwasanaethau Brys 2016

Postiwyd

Bydd Gwasanaethau Brys Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer eu Gwasanaeth Carolau blynyddol yn Eglwys Gadeiriol Bangor mis nesaf. 

 

Ddydd Llun y 12fed o Ragfyr am 7.30pm bydd Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru,  Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru a’r RNLI yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol hwn. 

 

Meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Mark Polin: “Mae’r gwasanaeth yn gyfle i’r Gwasanaethau Brys ac unrhyw wasanaeth arall, gwirfoddol ai peidio, ddod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl.

 

“Mae’n wasanaeth sy’n ymddangos yn nyddiadur y gwasanaethau brys ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n gyfle i bawb - swyddogion a staff, gwirfoddolwyr, eu teuluoedd ac aelodau’r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth.  Mae’r noson yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i bawb fynychu.”

 

Bydd Band Arian Llanrug, Côr y Penrhyn a’r unawdydd PC Arwyn Tudur Jones, i gyd yn perfformio ar y noson.

 

Bydd cynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys yn darllen darlleniadau a bydd cyfle i’r gynulleidfa ganu carolau adnabyddus.

 

Meddai Mr Gerald Williams, Caplan Heddlu Gogledd Cymru: “Mi fynychais y gwasanaeth carolau hwn yng Nghadeirlan Llanelwy y llynedd, ac rwy’n edrych ymlaen at wasanaeth ardderchog arall yng Nghadeirlan Bangor. Mae croeso i bob aelod o’r gwasanaethau brys fynychu, staff, eu teuluoedd, ffrindiau a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu drwy’r flwyddyn”

 

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i’r cyhoedd fynychu.

 

Bydd yr holl elw a gesglir yn ystod y gwasanaeth yn cael ei rannu rhwng y Gadeirlan ac elusen y Cŵn Tywys, gan fod Heddlu Gogledd Cymru yn casglu arian tuag at gi bach y cŵn tywys.

 

Bydd cyfle i fwynhau mins pei a phaned yn y Gadeirlan yn dilyn y Gwasanaeth. 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen