Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Meddyliwch yn Ddiogel, Yfwch yn Ddiogel y Nadolig hwn

Postiwyd

Heddiw, mae ymgyrch Meddyliwch yn Ddiogel, Yfwch yn Ddiogel Nadolig 2016 yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru, ac eleni mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar annog unigolion i gael amser da ac i edrych ar ôl eu ffrindiau

Mae’r ymgyrch – sy’n cael ei chydlynu gan asiantaethau partner ar draws y rhanbarth, yn ceisio sicrhau y gall unigolion sy’n ymweld â threfi ar draws y gogledd fwynhau noson ddiogel a hamddenol yn ystod cyfnod y Nadolig. Mae hefyd yn ceisio hyrwyddo pwysigrwydd yfed yn ddiogel ac yn gyfrifol ac atal a lleihau lefelau o droseddau treisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan alcohol ar draws Gogledd Cymru ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

Yn ystod y cyfnod prysur hwn, mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gorfod delio â nifer ychwanegol o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag alcohol sy’n rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau sydd eisoes wedi'u hymestyn led y pen.

Mae hefyd yn un o’r cyfnodau fwyaf prysur i’r Gwasanaerhau Brys. Rhwng Rhagfyr 18 llynedd a’r 2il o Ionawr 2016, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru 3,714 o alwadau ‘999’ a 12,315 o alwadau ‘101. Roedd 9.5% o’r trosedd a gafodd ei hadrodd i’r heddlu drwy gydol mis Rhagfyr llynedd yn ymwneud ag alcohol.

Bydd y cyhoedd yn cael eu hannog i ymweld â gwefan http://www.drinkwisewales.org.uk a hefyd i gymryd rhan mewn cwis arbennig yn http://www.north-wales.police.uk er mwyn gweld faint maent yn ei yfed.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iwan Davies, sy’n arwain y Grŵp Lleihau Effeithiau Alcohol: “Rydym yn gwybod bod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn amser hynod o brysur. Rydym eisiau i unigolion sy’n ymweld â threfi a phentrefi ar draws Gogledd Cymru i fwynhau eu hunain ond rydym yn aml yn gweld fod pobl yn yfed gormod yn ystod tymor y Nadolig. Ein nod yw annog pobl i gael amser da, ond i yfed yn gyfrifol. Gall goryfed effeithio ar ymddygiad person ac arwain at ganlyniadau difrifol. Eleni bydd ein timau safonau masnach ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda busnesau trwyddedig i sicrhau nad ydynt yn gwerthu alcohol i unigolion meddw. Mae'r neges yn syml - ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn cael ei oddef a bydd unrhyw un sy'n ymddwyn yn anghyfrifol yn cael cosb briodol gan sicrhau fod Gogledd Cymru yn lle diogel i ddod i fwynhau noson allan.”

Meddai Uwcharolygydd Jane Banham o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym eisiau i bobl fwynhau tymor y Nadolig, ond rydym yn gwybod o brofiad y bydd rhai pobl ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn dioddef oherwydd gormod o alcohol a’r gwasanaethau brys a'r cynghorau lleol sy'n gorfod delio â hyn.

“Nod yr ymgyrch hon yw sicrhau bod y rhai hynny sy'n yfed ac yn gwerthu alcohol yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd. Bydd ein timau yn dosrannu cardiau er mwyn annog unigolion i yfed alcohol yn ddiogel a byddant yn gweithio gyda busnesau trwyddedig er mwyn sicrhau fod pawb yn cael noson ddiogel a hwyliog.

“Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol i gadw canol ein trefi yn ddiogel fel y gall pobl fwynhau noson dda allan, ond mae’n rhaid i ni ledaenu’r neges bod angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hunain a'u ffrindiau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu hanafu, yn dioddef trosedd, neu fod yn gysylltiedig â thrais o ganlyniad i yfed gormod.

“Drwy weithio gyda’n partneriaid, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn sicrhau bod tafarndai, clybiau, siopau ac yfwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith. Byddwn yn delio’n llym â’r rhai hynny sydd ddim. 

“Mae'r neges yn syml - meddyliwch yn ddiogel, yfwch yn ddiogel.”

Dywedodd Dr Rob Perry, BIPBC: “Dros gyfnod y Nadolig rydym yn gwybod y byddwn yn gweld nifer sylweddol o bobl sydd naill ai yn dioddef o effeithiau yfed gormod o alcohol, neu sydd wedi cael eu hanafu o ganlyniad i ddamweiniau lle'r oedd alcohol yn ffactor. Fodd bynnag yn aml iawn nid yw’r bobl hyn angen y driniaeth a gynigir gan adran achosion brys ysbyty mawr.

“Mae rhoi cefnogaeth mewn lle fel y gall pobl gael eu gweld a derbyn gofal ‘yn y fan a'r lle’ yn golygu y gallant gael y lefel gywir o ofal yn gyflymach, bydd yn helpu i leihau’r pwysau ar yr Adran Achosion Brys a bydd yn golygu y gall fy nghydweithwyr ganolbwyntio ar ofalu am y bobl hynny sydd â salwch neu anaf difrifol sydd angen gofal ar frys i efallai achub eu bywyd.”

Bydd yr holl asiantaethau yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i hybu ymwybyddiaeth o’r ymgyrch ac fe anogir defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol i ddilyn yr hashnod #MeddwlDiogelYfedDiogel

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen