Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Oes gennych chi eiddo ar rent yng Nghymru?

Postiwyd

Dan y gyfraith, mae angen nawr i landlordiaid ac asiantau gael eu cofrestru neu eu trwyddedu. Cyflwynwyd cyfraith newydd - Deddf Tai (Cymru) 2014 - yng Nghymru sy'n berthnasol i bob landlord ac asiant eiddo preswyl preifat. Os ydych yn berchen ar, yn rhentu, yn rheoli a/neu'n byw mewn eiddo ar rent, yna bydd y gyfraith hon yn eich effeithio chi.

Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Os ydych yn landlord ac yn rhentu eich eiddo yng Nghymru, mae angen i chi gofrestru nawr. Mae hon yn gyfraith newydd a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2015, ac efallai nad ydych yn ymwybodol ohoni eto.

"Cafodd ei chyflwyno i wella safonau byw a diogelwch y sector rhentu preifat ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth newydd hon gan y bydd yn cynorthwyo o ran gwella diogelwch mewn eiddo ar rent yng Nghymru.

"Gall landlordiaid gael mwy o wybodaeth am y gofynion newydd yn yCod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau a drwyddedwyd dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014."

Ydych chi'n landlord?

Os ydych yn ateb YDW i'r holl gwestiynau canlynol, bydd angen i chi gofrestru fel landlord:

Ydych chi'n berchen ar eiddo preswyl nad ydych yn byw ynddo?

Ydych chi'n gadael i rywun arall fyw ynddo?

Ydych chi'n cael arian am eu bod yn byw yno?

Mae cofrestru yn gyflym ac yn hawdd. Gellir ei wneud arlein yn www.rhentudoeth.llyw.cymru  neu trwy ffonio 03000133344 i ofyn am ffurflen bapur.

Ydych chi'n rheoli eiddo ar rent?

Os ydych yn ateb YDW i unrhyw un o'r cwestiynau canlynol, bydd angen i chi wneud cais am drwydded:

Ydych chi'n landlord sy'n rheoli eich eiddo eich hun?

Ydych chi'n asiant sy'n gosod a rheoli eiddo ar ran landlordiaid?

Ydych chi'n ffrind, aelod o'r teulu neu'n gydnabod i landlord sy'n gofalu am eu heiddo ar eu rhan?


Medrwch wneud cais am drwydded arlein yn www.rhentudoeth.llyw.cymru neu medrwch ffonio 03000133344.

I gael mwy o fanylion ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen