Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn ty yn Llangernyw

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn bresennol ar ôl tân mewn eiddo ar Barc Aelas, Llangernyw brynhawn heddiw (Sadwrn 16eg Ionawr).

 

Fe'u galwyd i adroddiadau am dân am 14.03 o'r gloch.

 

Deliodd pedwar criw o ddiffoddwyr tân o Lanrwst, Abergele, Bae Colwyn a'r Rhyl â'r tân a oedd wedi datblygu'n dda gan ddefnyddio chwe set o offer anadlu, dwy bibell ddwr a phrif bibell chwistrellu. Mynychodd y peiriant ag ysgol ac esgynlawr o'r Rhyl hefyd.

 

Cafwyd y tân dan reolaeth yn gyflym - ac nid oedd unrhyw un gartref adeg y digwyddiad.

 

Mae criwiau yn dal i fod yn bresennol yn y digwyddiad dampio i lawr.

 

Nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd - mae yr achos y tân yn destun ymchwiliad.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen