Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Simneiau

Postiwyd

Wrth i’r tymheredd barhau i ostwng bydd nifer ohonom yn meddwl am wresogi ein cartrefi unwaith yn rhagor, ond fe ddylem hefyd ystyried diogelwch simneiau wrth gynnau tanau.

 

Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Diogelwch Simneiau yw wythnos hon (7fed-13eg Medi) ac mae swyddogion tân yn annog trigolion i gadw cyngor diogelwch tân sylfaenol mewn cof cyn cynnau tân yr hydref hwn.

 

Gellir atal y rhan fwyaf o danau simnai - cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i 217 o danau’r llynedd, sef cynnydd bach o gymharu â’r 12 mis blaenorol.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn anffodus gwelsom gynnydd mewn tanau simnai y llynedd. Fodd bynnag, rhaid cofio bod niferoedd wedi gostwng yn sylweddol o 319 yn 2012-2013, ac felly mae’n gadarnhaol gweld bod ein negeseuon diogelwch tân yn cael effaith yn yr hir dymor.

 

“Unwaith eto eleni, hoffwn atgoffa’r cyhoedd ei bod hi’n bwysig eu bod yn cadw’u hunain yn ddiogel drwy leihau’r perygl o dân. Glanhewch eich simdde yn rheolaidd. Mae’n well gwneud hyn cyn i chi ddechrau defnyddio’ch simnai eto dros fisoedd y gaeaf.”

 

Dyma air i gall gan Stuart er mwyn eich helpu i gadw mor ddiogel â phosibl rhag tanau simnai yn y cartref:

 

  • Dylid glanhau ac archwilio ffliwiau a simneiau i wneud yn siŵr nad oes dim byd yn eu blocio a'u bod mewn cyflwr gweithredol da cyn eu cynnau. Gall simnai ddiffygiol neu un sydd wedi ei blocio achosi tân neu wenwyn carbon monocsid, felly mae’n bwysig eich bod yn cyflogi glanhawr simdde proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda Chymdeithas Genedlaethol y Glanhawyr Simnai.

 

  • Mae’r gwaith cynnal a chadw yn dibynnu ar y math o danwydd yr ydych yn ei losgi – os ydych yn llosgi olew neu nwy mae gofyn i chi lanhau’ch simdde unwaith y flwyddyn, os ydych yn llosgi glo neu lo bitwmen bydd gofyn i chi ei glanhau ddwywaith y flwyddyn, ac os ydych yn llosgi pren yna mae’n rhaid ei glanhau hyd at bedair gwaith y flwyddyn.

 

  • Peidiwch â llosgi pren gwlyb – ni ddylech losgi pren sydd yn cynnwys mwy na 17% o leithder.

 

  • Wrth feddwl am sut i wresogi’ch cartref, mae’n bwysig eich bod yn prynu’r cyfarpar maint cywir ar gyfer yr ystafell – os ydy’r cyfarpar yn rhy fawr ni fydd yn ddigon poeth i losgi’r holl danwydd a bydd unrhyw danwydd na fydd yn cael ei losgi’n mynd i fyny’r simdde ac yn cywasgu’r ffliw gan droi’n greosot fflamadwy iawn.

 

Fe ychwanegodd Stuart : “I leihau’r perygl o dân yn y cartref, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd y colsion poeth yn iawn cyn mynd i’r gwely a defnyddiwch gard i amddiffyn rhag gwreichion neu golsion poeth.

 

“Pe byddai’r gwaethaf yn digwydd, gall larwm mwg achub eich bywyd a rhoi cyfle i chi fynd allan o’r tŷ – profwch eich larwm yn rheolaidd. Cofiwch, os nad oes gennych larwm mwg mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gosod rhai yn rhad ac am ddim – i gofrestru ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu galwch ein llinell gymorth 24 awr ar 0800 169 1234.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen