Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Harry George Fetherstonhaugh OBE Fedalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da i staff gweithredol y Gwasanaeth yn ystod Seremoni Gyflwyno a gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl ar ddydd Llun 28ain Medi.

Rhoddir y Medal Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da i ddiffoddwyr tân gan Gynrychiolydd Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Cyflwynodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y wobr Gwasanaeth Ffyddlon i aelod o’r staff cymorth sydd wedi cwblhau ugain mlynedd o wasanaeth.

Cyflwynwyd deg o Wobrau Cymunedol hefyd yn y seremoni er mwyn cydnabod aelodau staff a’r gymuned sydd wedi gweithio’n galed i wella diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig i bob diffoddwr tân ac mae’r seremoni hon yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad pob un o’r derbynwyr i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru. Gall pob derbyniwr gymryd balchder a boddhad wrth dderbyn eu Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da neu Wobr Gwasanaeth Ffyddlon."

Meddai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tâc ac Achub Gogledd Cymru: “Ar ran Aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn medal. Hefyd, llongyfarchiadau i’r sawl a dderbyniodd wobr gymunedol – diolch yn fawr i chi am eich ymroddiad ac i’n partneriaid allanol sy’n parhau i weithio gyda ni i amddiffyn ein cymunedau
.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen