Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Eich Gwasanaeth Chi, Eich Dewis Chi’ - lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y gwasanaethau tân ac achub a ddarperir yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan yn y dasg o’i helpu i gynllunio’r modd y dylai’r gwasanaethau tân ac achub a ddarperir yng Ngogledd Cymru gael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi ond mae’r pwysau ariannol ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu bod angen cymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â sut i fodloni’r galw am wasanaethau ond gyda chyllidebau prinnach.

 

Mae’r Awdurdod felly’n awyddus i glywed barn pobl ar ddarparu gwasanaethau fforddiadwy yng Ngogledd Cymru. Mae’r Awdurdod Tân ac Achub fyth a hefyd yn adolygu a gwella’r gwasanaethau y mae’n eu darparu, ac fel rhan o'i broses gynllunio flynyddol mae’n gwahodd pawb i rannu eu sylwadau a’u barn ar ei flaenoriaethau arfaethedig.    

Mae’r ymgynghoriad pwysig hwn yn cynnig pedwar cwestiwn – beth ydy’ch barn chi? Fel arall, efallai bod gennych awgrym gwell er mwyn darparu gwasanaethau tân ac achub fforddiadwy yng Ngogledd Cymru.

 

Meddai’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: ““Mae pob un ohonom yn ymwybodol bod llai o arian ar gael i wasanaethau cyhoeddus nac yr hoffem, ac rydym yn derbyn bod y sefyllfa’n annhebygol o wella am rai blynyddoedd. Bydd unrhyw un sydd yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod pa mor anodd yw parhau i ddarparu’r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl pan nad ydy’r arian ar gael.

 

“Mae’r cwestiynau sydd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn gofyn a allwn ni wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib gyda’r arian sydd ar gael i ni.

 

“Po fwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, gwell fydd ein rhagolygon ni o sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran gwasanaethau. Po fwyaf o sylwadau a derbyniwn, gallwn fod yn hyderus bod y cynlluniau gweithredu manwl a ddatblygwn yn cyflawni’r union beth y mae ei angen ar bobl y Gogledd.”

 

Cewch wybod mwy am sut i gymryd rhan drwy fynd i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk - y dyddiad olaf ar gyfer cwblhau’r arolwg yw 11 Rhagfyr 2015.

 

Bydd yr Awdurdod yn ystyried ei gynlluniau i’r dyfodol yng ngoleuni’r ymatebion a dderbynnir cyn y dyddiad cau uchod, ac yn cyhoeddi Cynllun Gwella terfynol 2016-17 ar wefan yr Awdurdod erbyn 31ain Mawrth 2016.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen