Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn rhes o dai yng Nghaergybi

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â thân mewn rhes o dai yn Ffordd Feurig, Caergybi.

Galwyd criwiau i'r digwyddiad am 22.14 o' gloch ar 28 Gorffennaf pan anfonwyd pedwar o beiriannau o Gaergybi, Rhosneigr a Llangefni, ynghyd â pheiriant ag ysgol ac esgynlawr o Fangor, i'r digwyddiad.

Roedd y diffoddwyr tân yn wynebu tân a oedd wedi datblygu, yn effeithio gofod to tri tŷ yn y rhes. Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i ymladd y tân a'i rwystro rhag ymledu. Roedd niwed arwyddocaol i'r to ar un o'r tai.

Gadawodd deg o bobl o bedwar eiddo yn y rhes ond nid oedd angen trin unrhyw un am anafiadau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymgymryd ag ymchwiliad ar y cyd i ganfod union amgylchiadau'r tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen