Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larwm mwg yn rhybuddio bod tân yn Wrecsam

Postiwyd

Aeth diffoddwyr tân i drin tân mewn eiddo ar Bernard Road, Smithfield, Wrecsam, am 7.42pm ar ddydd Mawrth 17eg Mehefin.

Rhybuddiwyd y deiliaid bod tân gan larwm mwg, a llwyddasant adael yr eiddo cyn i'r gwasanaeth tân ac achub gyrraedd.

Cafwyd mai achos y tân oedd canhwyllau bychain yn toddi ar y bath.
 
Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth, "Seiniodd larwm mwg a oedd wedi ei osod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gan rybuddio'r deiliaid bod tân. Mae'r digwyddiad hwn unwaith eto yn profi pa mor hanfodol ydyw i bawb gael larymau mwg yn eu cartrefi, gan y byddant yn rhoi rhybudd cynnar bod tân yn yr eiddo. Rhaid eu cynnal a'u cadw yn rheolaidd trwy brofi'r batri unwaith yr wythnos, a'i newid yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

"Nid oes esgus i neb yng Ngogledd Cymru fod heb larwm mwg gan fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb a byddant yn gosod larymau mwg fel y bo angen. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac rwy'n annog pawb i ofyn am ymweliad trwy gysylltu â'n rhif rhadffon ar 0800 169 1234 neu ebost cfs@nwales-fireservice.org.uk .

"Os ydych yn darganfod tân ni ddylech geisio delio ag o eich hun. Ewch allan o'r eiddo ar unwaith, cau pob drws ar eich ôl, galwch y gwasanaeth tân ac achub ac arhoswch allan. Ni ddylech byth, dan unrhyw amgylchiadau, fynd yn ôl i mewn i'r eiddo. I gael mwy o wybodaeth ar ddiogelwch tân ewch i www.nwales-fireservice.org.uk .

"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau bach sy'n gweithio â batri, y gellir eu prynu am bris isel, ac sy'n gweithio gyda batri yn hytrach na llosgi fflam. Mae'r canhwyllau electronig hyn yr un mor effeithiol wrth greu awyrgylch, ond maent yn llawer diogelach na channwyll."
Mae'n hanfodol bwysig bod trigolion yn dilyn y cyngor diogelwch isod wrth ddefnyddio canhwyllau.
- Peidiwch byth â gadael cannwyll yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell, a chofiwch ei diffodd cyn mynd i gysgu
- Gwnewch yn siŵr bod y gannwyll yn sefyll i fyny yn iawn ac wedi ei gosod yn gadarn fel na all syrthio - mae canhwyllau ag arogl yn troi'n hylif, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu llosgi mewn cynhwysydd gwydr neu fetel addas sy'n medru dal y gwres ac fel nad yw'r hylif yn arllwys allan
- Dodwch ganhwyllau ar wyneb sy'n wrthiannol i wres
- Cadwch ganhwyllau allan o ddrafftiau, ac i ffwrdd o lenni a ffynonellau gwres uniongyrchol neu olau haul
- Gwnewch yn siŵr bod o leiaf 10cm rhwng canhwyllau a peidiwch byth â'u dodi dan silffoedd neu arwynebau eraill
- Diffoddwch ganhwyllau cyn iddynt losgi'r cynhwysydd
- Llosgwch pob cannwyll allan o gyrraedd plant
- Diffoddwch ganhwyllau cyn i chi eu symud
- Dylech osod larwm mwg yn eich eiddo bob amser, ond ystyriwch larwm ychwanegol mewn ystafelloedd lle caiff canhwyllau eu llosgi yn rheolaidd
- Peidiwch â chyrraedd dros ganhwyllau
- Ni ddylid byth defnyddio canhwyllau awyr agored dan do
- Peidiwch â chwarae gyda chanhwyllau trwy ddodi unrhyw beth yn y cwyr poeth

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen