Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol cadeirydd newydd i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cafodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, o Gyngor Sir Ddinbych, ei ailethol yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gynharach heddiw (dydd Llun 16eg Mehefin).

Fe gychwynnodd y Cynghorydd Davies ar ei yrfa mewn llywodraeth leol 30 mlynedd yn ôl. Y mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd gyda Chyngor Sir Ddinbych ar ddau achlysur rhwng 1995 a 2013 ac y mae wedi bod yn aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub ers 1999.

 

Dyma oedd ganddo i'w ddweud ar gael ei ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf: "Rydw i wrth fy modd fy mod  i'n cael parhau yn y  rôl am flwyddyn arall. Rydym yn y broses o weithredu strategaeth a fydd yn sicrhau arbedion ariannol i'r Awdurdod - mae'n gyfnod heriol ac mae gennym benderfyniadau anodd o'm blaenau, ond rwyf yn falch o gael parhau gyda'r strategaeth hon fel y gallwn gyflawni'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru.

 

"Un o'r heriau mwyaf yr ydym ni fel Awdurdod yn ei wynebu yw parhau i amddiffyn ein cymunedau a sicrhau gwasanaeth o'r un safon a hynny mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol - rydw i wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Gogledd Cymru yn ardal ddiogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi a pharhau i gynnal enw da'r Awdurdod drwy'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud. "

Y Cynghorydd Peter Lewis MBE, o Gyngor Conwy a gafodd ei ethol yn is-gadeirydd.  

Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â'r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: "Rydw i a'r Cadeirydd wedi cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwyf yn siŵr y bydd hyn o fudd i'r Awdurdod wrth i ni wynebu'r heriau sydd o'm blaenau."

"Rwyf yn ffyddiog y byddwn ni fel tîm yn ymdrechu i sicrhau bod yr Awdurdod yn darparu gwasanaeth tân ac achub o'r radd flaenaf i bobl y Gogledd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen