Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofiwch y Nadolig am y rhesymau cywir -Cadwch yn ddiogel y Nadolig hwn

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion ddilyn ychydig o gynghorion syml er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn dros yr wyl.

 

Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn cael ei alw i bron i dair gwaith yn fwy o danau yn y cartref dros gyfnod y Nadolig.

 

Ym mis Rhagfyr 2013, roedd 35% o'r holl danau yn y cartref  y cawsom ein galw atynt wedi eu hachosi gan gyfarpar coginio, ac roedd y mwyafrif helaeth o'r rhain oherwydd bod pobl wedi gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno- roedd y cyfarpar yn cynnwys pentanau a chylchoedd trydan, poptai a microdonau.

 

Roedd 40% o danau yn y cartref wedi eu hachosi gan offer trydanol yn cynnwys offer wedi eu gorlwytho neu eu defnyddio yn anghywir.

 

Roedd bron i 20% o danau yn y cartref wedi eu hachosi gan ganhwyllau neu ganhwyllau te a defnyddiau ysmygu a oedd heb eu gwaredu'n iawn.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Yn llawer rhy aml rydym wedi bod yn dyst i'r dinistr y gall tanau yn y cartref eu hachosi.  Mae'n beth ofnadwy i ddigwydd ar unrhyw adeg o'r  flwyddyn ond mae ei effaith hyd yn oed yn waeth dros gyfnod y Nadolig.  Mae'r cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn newydd yn gyfnod i ymlacio a dathlu yng nghwmni teulu a ffrindiau -  ond mae'n bwysig eich bod yn cymryd pwyll arbennig rhag i dân ddinistrio'ch cartref, anrhegion a phethau gwerthfawr, eich anafu'n ddifrifol neu hyd yn oed eich lladd chi a'ch anwyliaid."

 

" Yn aml iawn mae plant yn breuddwydio am  sled goch a fydd yn dod ag anrhegion iddynt hwy, ceisiwch osgoi'r hunllef o injan dân goch yn dod i ddelio gyda thân yn eich cartref. "

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i bobl gadw'n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy gadw at y deuddeng cyngor canlynol dros yr wyl:

 

  1. Gwnewch yn siwr bod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig.  Defnyddiwch ddyfais cerrynt gweddillion (RCD) ar gyfer offer tu allan (dyfais sy'n gallu arbed bywydau drwy ddiffodd y pwer ar unwaith).
  2. Peidiwch byth â gosod canhwyllau ar eich coeden Nadolig nac ar ddodrefn.  Peidiwch â'u gadael yn llosgi heb neb gyda hwy.
  3. Gwnewch yn siwr fod eich teulu ac ymwelwyr sydd yn aros dros yr wyl yn gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.  Cofiwch ymarfer eich cynllun dianc.  
  4. Gall addurniadau losgi'n hawdd - Peidiwch â'u clymu wrth oleuadau neu wresogyddion.  
  5. Diffoddwch gyfarpar trydanol pan na fyddwch yn eu defnyddio, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen.
  6. Cymrwch bwyll gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch hwy a thynnwch y plwg cyn i chi fynd i'r gwely.  Dros y Nadolig byddwn yn defnyddio llawer mwy o offer trydanol megis goleuadau ac addurniadau yn ogystal â gemau ayb. Peidiwch â gorlwytho socedau a phlygiau - defnyddiwch lidiau diogelwch gyda'r ffiwsiau cywir.  Cyfeiriwch at ein cyfrifiannell ampau www.nwales-fireserfireservice / keeping you safe / looking after the electrics or follow this link /looking-after-the-electrics?lang=cy
  7. Mae'r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.  Dathlwch y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn ddiogel.  Mae'r perygl o ddamweiniau, yn enwedig yn y gegin, yn fwy ar ôl yfed alcohol.
  8. Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei gynnau a chadwch fwced o ddwr gerllaw.
  9. Gwnewch yn siwr fod sigaréts wedi cael eu diffodd yn llwyr.  
  10. Profwch fatri eich larwm mwg unwaith yr wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel cyfnod i'ch atgoffa i'w lanhau a chael gwared ar lwch.  
  11. Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant.
  12. Cymrwch amser i ymweld â pherthnasau a chymdogion hyn y Nadolig hwn - gwnewch yn siwr eu bod yn ddiogel rhag tân.

 

 

 

Fe ychwanegodd Gary: "Mae pawb yn hoffi mwynhau ei hun dros y gwyliau, ond rydym yn gofyn i bobl gadw diogelwch tân mewn cof wrth iddynt ddathlu. Hoffwn atgoffa trigolion am beryglon coginio ar ôl bod yn yfed alcohol - dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth.

 

"Mae'n rhaid i nid ystyried y canlyniadau a meddwl yn ddiogel er mwyn cadw'n ddiogel."

 

Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn eich cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

 

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

 

Ewch i'n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Nadolig ac i gael gwybod mwy am sut i gadw'n ddiogel dros y Nadolig   www.facebook.com/northwalesfireservice

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen