Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyflwyno elw'r arddangosfa dân gwyllt i elusennau

Postiwyd

Neithiwr fe ddaeth elusennau lleol at ei gilydd yn Shotton i dderbyn elw gwerth  £4500.00, sef y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol ar y 5ed o Dachwedd.

Roedd yr elusennau a dderbyniodd rodd yn cynnwys  yr apêl Baby Grow, Gorsaf Radio Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Glannau Dyfrdwy, Bad Achub y Fflint, Canolfan  Melrose, Chatterboxes, Brownis 1af Shotton, Eye 2 Eye, Clwb Bowlio Cei Conna, Cefnogaeth Cancr MacMillan, Cymdeithas Gymunedol Shotton, Rhys's Road to Recovery, Ymatebwyr Cyntaf y Gymued, Manley Court TA, Clwb Dydd Gwener Plymouth Street, Fforwm dros 50  Ewloe, Ambiwlans Sant Ioan, Connah's Quay Tigers, Toy Box for Superkids, Deeside Dragons, Band Arian Glannau Dyfrdwy, Elusen y Diffoddwyr Tân, Clwb Rygbi Ieuenctid Hawarden Rangers, North Wales Crusaders, Cadetiaid Awyr Penarlâg, Cymdeithas Plant Byddar Sir y Fflint, Daffodils a PhentrePeryglon.

Roedd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol i gyflwyno'r sieciau i gynrychiolwyr o'r gwahanol elusennau.

Meddai Nigel Sephton, diffoddwr tân o Lannau Dyfrdwy ac un o drefnwyr y noson: "Daeth llawer o bobl i gefnogi'r noson eleni a hoffwn ddiolch i bawb a'm cefnogodd a'i gwneud hi'n bosib i ni gyfrannu arian i'r elusennau haeddiannol hyn.

"Roedd yn bleser gweld yr elusennau'n derbyn y sieciau gan Simon Smith, ein Prif Swyddog Tân. Hoffwn ddiolch i Fand Arian Glannau Dyfrdwy am chwarae yn ystod y seremoni, ac i'r holl gynrychiolwyr am ddod i dderbyn y rhoddion.

" Rydym yn falch o gael gweithio gyda thrigolion yng Ngogledd Cymru i'w cadw mor ddiogel â phosibl, ac y mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i'r gymuded yn gwneud yr holl waith caled y mae'n ei gymryd i drefnu'r arddangosfa yn werth chweil.

"Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru, galwch 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk "

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen