Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Carolau'r Gwasanaethau Brys 2014

Postiwyd

Mae'r gwasanaethau brys yng Ngogledd Cymru'n paratoi i gynnal eu gwasanaeth carolau Nadolig blynyddol.

Eleni, bydd y gwasanaeth sy'n cael ei gynnal ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'u partneriaid, yng Nghadeirlan Bangor ddydd Llun 8 Rhagfyr am 7.30pm.

Cynhelir perfformiadau gan Fand Pres Prifysgol Bangor, Côr Aethwy a'r unawdydd Ffion Elin Davies, ynghyd â darlleniadau gan gynrychiolwyr y gwasanaethau a charolau cyfarwydd i'r gynulleidfa eu canu.

Mae mynediad i'r gwasanaeth am ddim ac mae croeso cynnes i aelodau'r cyhoedd fynychu.

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr (Interim) Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:  Mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i'r gwasanaethau brys ac unrhyw wasanaeth arall, gwirfoddol neu arall, ddod at ei gilydd i daro'r nodyn cywir ar gyfer yr wyl.

"Mae croeso i unrhyw un fynychu'r noson hyfryd hon sy'n draddodiadol wedi cael cynulleidfaoedd niferus ac mae'n addo eich rhoi yn ysbryd y Nadolig.

"Yn draddodiadol, mae'r Nadolig yn amser prysur i'r gwasanaethau brys.  Felly, rydym yn annog pobl i leddfu'r pwysau ar ein staff drwy helpu eu hunain, gofalu amdanynt eu hunain a sicrhau eu bod yn ddiogel er mwyn osgoi'r angen am ffonio 999.

"Hoffwn ddymuno Nadolig Hapus iawn i'n staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid ac aelodau'r cyhoedd ac amser diogel a iach dros gyfnod yr wyl."

Rhennir elw'r casgliad yn y gwasanaeth rhwng yr elusen Awyr Las a Chadeirlan Bangor.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen