Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub dynes o dân mewn tŷ yn y Waun

Postiwyd

Galwyd diffoddwyr tân i dân mewn tŷ yn y Waun am 01.35 o'r gloch y bore yma (Dydd Mercher , 25ain Medi).

Fe anfonwyd tri pheiriant o'r Waun, Llangollen a Wrecsam i'r byngalo yn Lodge Valley Park.

Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu i achub y ddynes 65 oed o'r tŷ.  Cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ar ôl cael triniaeth gychwynnol gan barafeddygon yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadlu mwg. Dywedwyd ei bod mewn cyflwr difrifol.

Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân chwe set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i ddiffodd y tân.

Fe achubwyd ci o'r eiddo yn ogystal.  Mae'r ci hefyd mewn cyflwr difrifol ac rydym wedi cysylltu gyda'r RSPCA.

Y mae'r difrod i'r adeilad yn cael ei asesu ar hyn o bryd ac y mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen