Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Sir y Fflint

Postiwyd

Cymrodd criw o bobl ifanc o Sir y Fflint ran yng Nghwrs Y Ffenics yn ddiweddar. Dyma fenter  arloesol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil  a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.

Cynhaliwyd y cwrs yng ngorsaf dân yr Wyddgrug.

Yn ystod yr wythnosau cafodd y myfyrwyr , a oedd rhwng 13 a 18 mlwydd oed, gyfle i gael blas ar waith y Gwasanaeth Tân ac Achub a chymryd rhan mewn ymarferiadau. At hyn, roedd nifer o weithgareddau awyr agored wedi eu trefnu yn ogystal ag ymarferion tîm a magu hyder er mwyn i'r bobl ifanc gael dysgu sut i weithio fel rhan o dîm.  

Meddai Eryl Owen, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cyrsiau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor."

"Nod y cwrs yw ysgogi'r bobl ifanc a'u gwneud i deimlo'n fwy positif amdanynt eu hunain, a fydd, o ganlyniad, yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell, a fydd yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell .

"Rydym yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen