Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Larymau mwg yn achub bywydau cwpl o Brestatyn

Postiwyd

Cafodd cwpl yn eu 70au ddihangfa lwcus o dân yn eu cartref ym Mhrestatyn ddoe gyda diolch i'r larymau mwg arbenigol i'r trwm eu clyw a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

Cafodd criwiau o Brestatyn a'r Rhyl eu galw i dân mewn cegin yn St George's Drive, Prestatyn am 16.47 o'r gloch ar ôl i larymau mwg arbenigol i'r trwm eu clyw, a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,  rybuddio'r preswylwyr am y tân.

Fe daclodd y dyn y  tân ar ei ben ei hun ei hun ac roedd y  tân wedi ei ddiffodd pan gyrhaeddodd y criwiau.

Cafodd y ddau breswylydd archwiliad rhagofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle.

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a sut y gallant arbed bywydau.

"Fe osodwyd larymau mwg i'r trwm eu clyw yng nghartref y cwpl yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref. Mae gan y larymau hyn badiau sydd yn dirgrynu a goleuadau sydd yn fflachio i rybuddio pobl sydd yn drwm eu clyw o dân yn y cartref.  Mae larymau  arbenigol fel hyn yn cael eu gosod yn rhad ac am ddim, yn yr un modd â'r larymau mwg arferol.

"Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych larymau mwg gweithredol.  Os bydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc.   Gall larwm mwg eich rhybuddio mewn da bryd a rhoi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.

"Bydd cynllun dianc cyfarwydd yn eich helpu i fynd allan yn fyw pe byddai'r gwaethaf yn digwydd.  Hefyd, ceisiwch sefydlu arferion gyda'r nos - diffodd eitemau trydanol a chau drysau i atal mwg rhag lledaenu ac amddiffyn eich llwybr dianc pe byddai tân yn digwydd.

"Yn anffodus, fe geisiodd y dyn daclo'r tân ei hun ac roedd yn ffodus iawn na chafodd ei anafu'n ddifrifol.  Peidiwch bydd â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno a pheidiwch byth â thaclo tân eich hun - gadewch y gwaith yma i ni.

"Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am  ddim yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân. I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar  0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges. "

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen