Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd wedi i silindr ocsigen ffrwydro

Postiwyd

Y mae swyddogion tân yn rhybuddio am beryglon ysmygu yn agos at silindrau gwasgeddedig wedi i sigarét achosi tân mewn cartref yn y Rhyl yn ystod oriau mân y bore yma lle ffrwydrodd silindr ocsigen.

Yn ffodus iawn llwyddodd y preswylwyr, cwpl oedrannus, i fynd allan yn ddianaf ond fe achoswyd difrod tân 100% yn yr ystafell wely a difrod gwres a mwg 90% yng ngweddill yr eiddo ar Molineaux Road, y Rhyl.

Galwyd criwiau o'r Rhyl i'r eiddo am 05.32 o'r gloch y bore yma.  Fe ddefnyddiodd y criwiau dair pibell ddŵr, un prif bibell a chwe set o offer anadlu i ddiffodd y tân.

Mae'n ymddangos bod y sigarét wedi tanio'r bibell ocsigen a oedd yn cysylltu'r silindr ocsigen yn yr ystafell wely.

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu'r difrod  a achosir pan fydd fflamau noeth yn dod i gysylltiad gyda silindrau gwasgeddedig.  Roedd y cwpl yn ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf - ond yn hawdd iawn gallem fod wedi bod yn delio gyda thrychineb arall yng Ngogledd Cymru. Pe byddai unrhyw un wedi bod yn yr eiddo pan ffrwydrodd y silindr byddent wedi cael eu hanafu'n ddifrifol gan y ffrwydrad  a'r tân. Nid dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru. Yn y gorffennol mae pobl wedi cael eu hanafu'n ddifrifol ac eraill wedi eu lladd.

"Y mae'r math yma o ymddygiad yn peryglu bywydau'r preswylwyr eu hunain, eu cymdogion a'r diffoddwyr tân sydd yn cael eu hanfon i ddiffodd y tân.  Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i gleifion sydd angen triniaeth ocsigen gadw at y  cyfarwyddiadau diogelwch a pheidio byth ag ysmygu pan fyddant yn eu defnyddio neu yn ymyl y man lle mae'r silindrau a'r offer cysylltiedig yn cael eu defnyddio neu storio.  Ni ddylid cadw'r silindrau ger fflamau noeth, gwresogyddion neu ddefnyddiau hylosg."

 

Mae larymau mwg yn arbed bywydau - i gael gwybod mwy am ddiogelwch tân ac i gael gosod larwm mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk  neu galwch ein llinell ddwyieithog 24 awr yn rhad ac am ddim ar 0800 169 1234.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen