Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid

Postiwyd

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid (Dydd Llun 18- Dydd Gwener 22 Tachwedd 22 2013).

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Gall  gwenwynocarbon monocsid ladd neu achosi dirfod parhaol i'ch iechyd.

 

"Y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydy tanwydd yn cael ei losgi'n iawn - does ganddo ddim arogl na blas a, pan fydd llawer iawn ohono, gall ladd yn gyflym iawn.

 

"Rydym yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid er mwyn helpu i gadw ein trigolion yn ddiogel.

 

"Drwy wneud yn siŵr bod offer sydd yn llosgi tanwydd a'u simneiau yn cael eu cynnal a'u cadw  yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bod simneiau yn cael eu glanhau yn rheolaidd a'ch bod wedi gosod larwm Carbon Monocsid, gallwn helpu i gadw ein hunain a'n teuluoedd yn ddiogel rhag peryglon carbon monocsid."


 

Sut y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu?

 

Y mae carbon monocsid yn anodd ei ganfod oherwydd nad oes ganddo arogl, blas na lliw.  Y mae hyn yn golygu hefyd y gallwch ei anadlu heb yn wybod i chi.

 

Y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydy tanwydd fel nwy, olew, glo a choed yn llosgi'n iawn.

 

Pan fydd tân yn llosgi mewn ystafell gaeedig, bydd yr ocsigen yn cael ei ddefnyddio'n raddol a charbon deuocsid yn cymryd ei le. Bydd y carbon deuocsid sydd yn casglu yn yr aer  yn atal y tanwydd rhag llosgi'n iawn ac yna'n rhyddhau carbon monocsid.

 

Achosion gwenwyno carbon monocsid

 

Mae nwy, olew, glo a phren yn ffynonellau tanwydd sydd yn cael eu defnyddio mewn offer yn y cartref, megis:

  • boeleri
  • tanau nwy
  • systemau gwres canolog
  • gwresogyddion dŵr
  • poptai
  • tanau agored

 

Os na fydd y tanwydd yn y math yma o offer yn llosgi'n iawn, bydd nwy carbon monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu.

 

Gall unrhyw un o'r isod achosi i garbon monocsid gasglu:

  • Defnyddio barbiciw neu wresogyddion gardd yn y tŷ
  • Defnyddio offer coginio er mwyn cadw ystafell yn gynnes
  • Mannau caeedig neu heb eu hawyru  - wrth losgi tanwydd mewn mannau caeedig neu heb eu hawyru'n iawn, heb fentiau, ffenestri neu ddrysau ar agor neu'n gilagored
  • Offer sydd â nam arnynt neu wedi eu difrodi - gwresogi neu goginio  
  • Offer coginio heb eu cynnal a'u cadw  
  • Ystafelloedd sydd heb eu hawyru'n dda - ffenestri wedi eu seiliedig, heb fric aer  
  • Simneiau neu ffliwiau wedi blocio - nythod adar, briciau wedi syrthio, llystyfiant, gwaith atgyweirio/adeiladu gwael
  • Heb osod offer yn gywir - megis poptai neu offer gwresogi
  • Gadel injan neu beiriannau torri gwair ymlaen yn y garej  
  • Hen offer sydd heb eu cynnal a'u cadw'n iawn
  • Mygdarthau paent - mae mygdarth hylifau a defnyddiau cael gared ar baent yn cynnwys methylen clorin (dichloromethane) sydd hefyd yn gallu arwain at achosion o wenwyno carbon monocsid.

 

Arwyddion Perygl  

 

Mae'r arwyddion perygl o ollyngiad CO yn cynnwys:

  • Fflamau melyn neu oren pan ddylent fod yn las
  • Olion huddygl ar danau a gwresogyddion dŵr.  Y mae hefyd yn bosib i chwi gael eich gwenwyno gan garbon monocsid os ydych yn rhannu simnai gyda thŷ arall sydd fan ollyngiad CO, hyd yn oed os nad oes gollyngiad yn eich tŷ chi.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen