Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Penaethiaid y gwasanaeth tân yn wynebu her creu Cymru fwy diogel

Postiwyd

Mae penaethiaid gwasanaethau tân Cymru wedi dod at ei gilydd i wynebu'r her sy'n wynebu cynifer o sefydliadau sector cyhoeddus ar hyn o bryd - sut i lwyddo i wneud arbedion ariannol heb gyfaddawdu ar lefel y gwasanaeth.

Mae gan bob un o'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru un amcan cyffredin sydd wrth wraidd popeth a wnânt - cydweithio er mwyn creu Cymru fwy diogel.

A chyda golwg ar hyn y daeth uwch swyddogion ynghyd ym mhencadlys Rheoli Sir Powys yn Llandrindod ddydd Mawrth (17eg Gorffennaf), er mwyn dangos eu hymrwymiad i agenda Llywodraeth Cymru i wella gweithio ar y cyd.

Mae tîm newydd a elwir yn Bwyllgor Materion Cenedlaethol wedi ei sefydlu er mwyn bwrw ymlaen ag amcan y gwasanaeth - a chyfarfu'r aelodau am y tro cyntaf ddoe.

Etholwyd y Cynghorydd Tudor Davies o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Gadeirydd ar y pwyllgor newydd.

Wedi ei ethol, meddai: "Mae hwn yn gyfnod heriol ond cyffrous. Rydym yn benderfynol o weithio gyda'n gilydd a chreu ymdrech tîm er mwyn cyflwyno agenda gwella gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

"Ein blaenoriaeth yw gwella eto ar gydweithio, cyflwyno gwasanaeth a gwelliannau cynaliadwy i'r gwasanaeth er lles Cymru."

Mae'r Pwyllgor Materion Cenedlaethol yn cynnwys uwch swyddogion ac aelodau etholedig o'r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru. Bydd yn cynnig atebolrwydd democrataidd ond hefyd yn cynnig arweinyddiaeth ranbarthol er mwyn gweithredu'r cyfleoedd i gydweithio a gwasanaethau brys eraill a'r sector cyhoeddus yn ehangach. Ei nod yw cyflwyno gwelliannau y gellir eu mesur, gan gynnwys mwy o effeithlonrwydd a mwy o wasanaethau'n seiliedig ar ddinasyddion.

Mae sawl maes allweddol ar gyfer cydweithio wedi eu nodi fel canolbwynt i'r pwyllgor, gydag aelod o'r cyngor, ac uwch gynghorydd o'r gwasanaeth tân wedi eu penodi ar gyfer pob un o'r meysydd hyn. Cynhelir cyfarfodydd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol bob yn eil fis er mwyn mesur cynnydd yn erbyn yr amcanion allweddol a'r rhaglenni cynllunio.

Mynegodd y Prif Swyddogion Tân eu hymrwymiad i greu a gwella'r cydweithio presennol.

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae pwysigrwydd gweithio ar y cyd yn fwy nag erioed ac yn uchel iawn ar yr agenda cyhoeddus ar hyn o bryd. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel ein sefydliad ni, yn wynebu her mwy o ddewisiadau economaidd anodd. Rydym yn sylweddoli beth yw manteisio gweithio ar y cyd - yn enwedig, o ran gweithio gyda'n gilydd er mwyn gwella adnoddau, cydnabyddiaeth a chanlyniadau wrth wynebu cyfnod o gyfyngu ar adnoddau."

Dywedodd Richard Smith, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Rydan ni eisoes yn cydweithio o ddydd i ddydd - ond bellach, rydym yn edrych ar fwy na dim ond croestoriad o amcanion cyffredin, ond yn hytrach benderfyniad dwfn, ar y cyd i gyrraedd un amcan cyffredin fydd yn ein hatgyfnerthu yn y tymor hir."

Dywedodd Huw Jakeway, y Prif Swyddog Dros Dro gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae cydweithio yn gofyn am gryn dipyn o ymrwymiad sy'n golygu rhannu gwybodaeth, dysg a chreu consensws, ac i fod yn llwyddiannus, mae'n gofyn am arweinyddiaeth o frig y sefydliadau. Dyma'r ethos y tu ôl i'r Pwyllgor Materion cenedlaethol newydd hwn."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen