Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar garafanwyr a gwersyllwyr i gymryd pwyll

Postiwyd

Mae pobl sydd yn hoff o garafanio a gwersylla yn cael eu hannog i wrando ar negeseuon diogelwch yn dilyn tân mewn carafán yng Nghaernarfon dros ŵyl y banc lle cafodd dyn 47 mlwydd oed ei anafu - ac, yn Swydd Amwythig, bu farw bachgen yn ei arddegau mewn digwyddiad sydd wedi dwyn i'r amlwg beryglon barbiciws.

Mae'r digwyddiadau hyn yn dilyn y tanau carafán trasig hynny sydd wedi digwydd yng Ngogledd Cymru dros y 12 mis diwethaf - yn cynnwys y tân yn Llangollen ym mis Chwefror lle bu farw dyn yn ei 40au, a'r digwyddiad trychinebus yn Abermaw fis Mehefin diwethaf lle bu farw dau ddyn a chafodd merch ddyflwydd oed ei hanafu'n ddifrifol.

Ym mis Awst y llynedd  bu farw mam 34 mlwydd oed, a oedd yn hanu o Chestefield, tra'n gwersylla ger Pwllheli wedi iddi gael ei gwenwyd gan nwy carbon monocsid o farbiciw.

Dywedodd Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae tân yn gallu digwydd unrhyw bryd yn unrhyw le - ac mae'n bwysig i bob un ohonom fod ar ein gwyliadwriaeth a gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hanwyliaid yn ddiogel. Os bydd tân, mae carafannau'n gallu bod yn fwy peryglus na thŷ gan eu bod yn llai ac yn fwy cyfyng.

"Ni allaf bwysleisio digon pa mor beryglus yw'r nwy carbon monocsid sydd yn dod o farbiciw os caiff ei adael i fudlosgi - dylid defnyddio barbiciws cludadwy mewn man sydd wedi ei awyru'n dda, y tu allan yn ddelfrydol, gan bod y nwy  marwol hwn yn llenwi mannau cyfyng yn gyflym iawn.  Gall anadlu dim ond ychydig bach o'r gwenwyn hwn achosi pendro, cur pen a symptomau tebyg i'r ffliw - yn gyflym iawn byddwch yn colli ymwybyddiaeth a bydd y nwy yn eich hamddifadu o ocsigen.  Gall anadlu lefel uchel iawn o'r nwy eich lladd mewn ychydig funudau."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori'r rhai sy'n trefnu gwyliau mewn carafán neu babell i gadw'r cyngor canlynol mewn cof:

Byddwch yn barod

- Gofalwch fod pebyll neu garafannau o leiaf chwe metr oddi wrth ei gilydd
- Holwch beth ydi'r trefniadau diffodd tân ar y safle, a ble mae'r ffôn agosaf
- Gosodwch larwm mwg gweledol, a gofalwch ei fod yn gweithio
- Gofalwch fod yna offer diffodd tân llawn dŵr neu bowdwr sych, a'i fod y tu mewn i'r garafán wrth ymyl y drws am allan, a bod blanced dân wrth ymyl y lle coginio
- Cadwch fflachlamp mewn lle cyfleus rhag ofn bydd argyfwng - peidiwch â defnyddio cannwyll
- Peidiwch â gadael plant ar eu pen eu hunain mewn carafán - a chadwch fatsys a thanwyr allan o'u gafael
- Peidiwch â gorlwytho socedi neu lîd estyniad os oes gennych gysylltiad â chyflenwad trydan, a gofalwch fod y peiriannau trydanol yn gweithio'n iawn
- Gofalwch fod pawb yn gwybod sut i agor ffenestri a drysau i ddianc
- Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy draw oddi wrth bebyll.
- Peidiwch â choginio y tu mewn i'ch pabell.
- Byddwch yn barod i dorri'ch ffordd allan o'ch pabell os bydd tân.
- Os bydd eich dillad yn mynd ar dân, ARHOSWCH, DISGYNNWCH A RHOLIWCH.
- Ni ddylai offer sy'n llosgi olew gael eu defnyddio y tu mewn i bebyll neu wrth eu hymyl.
- Ni ddylai offer coginio gael eu defnyddio mewn pebyll bychain.
- Peidiwch ag ysmygu y tu mewn i bebyll.


Os bydd yna dân:


- Dywedwch wrth bawb i fynd allan ar unwaith. Mae tanau mewn pebyll a charafannau'n lledu'n gyflym.
- Galwch y gwasanaeth tân ac achub.
- Rhowch gyfeirnod map. Neu, cyfeiriwch at fferm neu dafarn er mwyn ei gwneud yn haws i'r gwasanaeth tân ac achub ddod o hyd ichi.


Nwy potel:


- Mae angen bod yn ofalus tu hwnt oherwydd gallai silindrau nwy ffrwydro mewn tân
- Cadwch silindrau y tu allan i'r garafán oni bai fod lle arbennig wedi ei ddarparu y tu mewn ar eu cyfer
- Cyn mynd allan neu adael y garafán, diffoddwch bob offer - dylai'r silindr gael ei ddiffodd hefyd oni bai fod offer megis oergell wedi cael ei gynllunio i aros ymlaen trwy'r amser
- Peidiwch byth â defnyddio stof neu wresogydd pan fyddwch yn teithio.


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb, gan gynnwys carafanwyr, a byddant yn gosod larymau mwg lle bo angen - cysylltwch â'r rhif rhadffôn 24 awr, sef 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost at dtc@gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen