Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines - Cofiwch ddathlu’n ddiogel

Postiwyd

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar hyd a lled Cymru i ddathlu bod y Frenhines wedi teyrnasu ers 60 mlynedd.

Mae Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, yn erfyn ar i drigolion ddathlu'n ddiogel.  Meddai:  "Os ydych wedi trefnu neu yn mynd i ddigwyddiad i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, cofiwch gadw diogelwch mewn cof ynghanol yr holl gyffro."

"Drwy gadw diogelwch mewn cof a pharatoi rhag digwyddiadau posib gallwch helpu i'ch cadw chi a'ch gwesteion yn ddiogel."

Dyma'r cyngor sydd gan Gareth fel na fyddwch yn cofio'r diwrnod am y rhesymau anghywir:

•             Gwnewch yn siŵr bod y digwyddiad wedi ei drefnu'n iawn

•             Cwblhewch asesiad risg cyn y digwyddiad a gwnewch rywbeth ynglŷn â'r risgiau a ganfyddwch

•             Cymrwch ofal wrth ddefnyddio'r barbiciw: gwnewch yn siŵr ei fod mewn cyflwr gweithredol da ac nad ydyw wedi ei osod yn agos at bethau a all fynd ar dân yn hawdd neu mewn man lle bydd pobl yn cerdded heibio.  Defnyddiwch danwydd sydd yn addas i'w ddefnyddio ar farbiciw a PHEIDIWCH BYTH â'i adael heb neb i gadw llygaid arno.  Tywalltwch ddŵr ar golsion poeth wrth iddynt oeri a thywalltwch y lludw ar bridd yn yr ardd.  Ni ddylech fyth â rhoi'r lludw mewn bin olwynion.  Dylid defnyddio barbiciws yn yr awyr agored.  Peidiwch byth â'u defnyddio y tu mewn.   Byddwch yn ymwybodol o wenwyn carbon monocsid.

•             Os bydd yn rhaid i chi gynnal eich parti y tu mewn oherwydd y tywydd, peidiwch â gosod baneri neu rubanau yn agos at larymau mwg neu oleuadau, gan fod peryg iddynt boethi.  

•             Wrth osod byrddau a chadeiriau, meddyliwch am funud ac ystyriwch sut y gallai peiriannau tân a cherbydau brys eraill gael mynediad mewn argyfwng.  Gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhwystro mynediad.

Fe ychwanegodd Gareth: "Os ydych yn bwriadu cynnau ffagl fel rhan o'r dathliadau, yna mae'n rhaid i chi gofrestru eich digwyddiad drwy fynd i  http://www.diamondjubileebeacons.co.uk/.

"Os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni ar 01745535805 os ydych yn bwriadu cynnau ffagl, rhag ofn i ni anfon peiriannau tân allan yn ddiangen."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen